Dwi di cael llythyr drwy'r post heddiw gan ryw gwmni meysydd parcio yn deud fod ganddyn nhw dystiolaeth ffotograffig fy mod wedi parcio ym maes parcio Aldis Bangor am fwy na'r dwyawr a ganiateir, ac o'r herwydd fod rhaid i mi dalu ffein o £70.
Rwan, tu hwnt i'r ffaith fod hynne'n ddirwy ridicilous o uchel am fynd 10 munud dros amser, mae'r llythyr sydd wedi dod gan y cwmni crwcs yn uniaeth Saesneg, er fod ganddo'r un pwrpas (a grym, dwi'n tybio) a thocyn parcio cyhoeddus, neu wys llys, yna oni ddylai fod yn ddwyieithog?
Unrhwyun yn wgybod be di'r sefyllfa gyfreithiol efo hyn o dan y ddeddf iaith?