Tudalen 1 o 2

Spot the difference: £20,000 i dotCYM

PostioPostiwyd: Mer 06 Awst 2008 10:43 am
gan Ray Diota
£20,000 i dotCYM, cymharwch yr erthyglau...

Cymraeg
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7 ... 544084.stm

Saesneg
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7543956.stm

Pam bod y canlynol, a mwy, yn berthnasol i'r di-Gymraeg ond nid i Gymry Cymraeg te?

Sai'n deall gwefan Newyddion y BBC o gwbwl... :?

But a Cardiff Business School report said there was little evidence to show .cym would promote Welsh culture.

In its report in June 2007, it also said: "There is little evidence to suggest that a .cym domain will have substantial short-term economic benefit for Wales."

And CBI Wales said although .cym could be a useful tool for some the trend was towards using international web names.

Re: Spot the difference: £20,000 i dotCYM

PostioPostiwyd: Mer 06 Awst 2008 11:14 am
gan Hogyn o Rachub
Ar nodyn ychydig yn wahanol (cytuno efo'r uchod gyda llaw) oes rhywun arall yn ffendio .cym yn swnio'n, ym, amhriodol? Ar newyddion Susnag Cymru bora 'ma roedden nhw'n dweud dot-sî-wai-em (rhaid bo nhw di'i dallt hi) ond nid felly y bydda i'n ei ddweud ac mae'n swnio'n sili braidd - 'nenwedig os bydd y di-Gymraeg yn dechrau dweud dot cym. Wnim, ella fi'n sy'n ystyried hynny gormod neu 'sneb arall wedi digon, ond dotcym? Wnim de. Oni fyddai rhywbeth fel .cmr yn well, ac yn fwy addas? :?

Re: Spot the difference: £20,000 i dotCYM

PostioPostiwyd: Mer 06 Awst 2008 11:32 am
gan ceribethlem
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Ar nodyn ychydig yn wahanol (cytuno efo'r uchod gyda llaw) oes rhywun arall yn ffendio .cym yn swnio'n, ym, amhriodol? Ar newyddion Susnag Cymru bora 'ma roedden nhw'n dweud dot-sî-wai-em (rhaid bo nhw di'i dallt hi) ond nid felly y bydda i'n ei ddweud ac mae'n swnio'n sili braidd - 'nenwedig os bydd y di-Gymraeg yn dechrau dweud dot cym. Wnim, ella fi'n sy'n ystyried hynny gormod neu 'sneb arall wedi digon, ond dotcym? Wnim de. Oni fyddai rhywbeth fel .cmr yn well, ac yn fwy addas? :?

Os bydd y cwmniau porn yn talu Cymru i gael defnyddio dotcym, gallwn ni ennill ffortiwn fach!

Re: Spot the difference: £20,000 i dotCYM

PostioPostiwyd: Mer 06 Awst 2008 6:43 pm
gan Seonaidh/Sioni
O ia CB, heb os! Oni ddylai hyn fod yn ".cwm", fel ".com" yr UD a ".co" y DU? Os am rywbeth i ddynodi "Cymru" yn lle "United Kingdom", gwell cael cod dwy-lythyren. Oes na un ar gael, e.e. .cy (Cyprus?), .cm, .cr, .cu?

"Pobol y dot-cwm"...

Re: Spot the difference: £20,000 i dotCYM

PostioPostiwyd: Mer 06 Awst 2008 11:29 pm
gan BOT
Pwy fydd y cyntaf i gofrestru:
relax_dont_do_it_when_you_want_to.cym
Os gwn i?!!!!!

Re: Spot the difference: £20,000 i dotCYM

PostioPostiwyd: Llun 20 Hyd 2008 2:56 pm
gan Duw
"I think it offers another option for businesses to consider which is never a bad thing," ...
"For companies for which Welshness is a key part of their proposition to their customers it maybe a useful marketing tool."
But he added: "The trend is probably towards globalisation and the removal of local domain names. There are more companies opting for .com rather than .co.uk."


Mae'n wir i ddweud bod rhai cwmniau rhyngwladol yn osgoi domains lleol (stim lot rwyf yn defnyddio yn beni gydag .us;.fr;.de - heb law am wefannau ymchwil ar gyfer gics). Ar y llaw arall, mae Gwgl, Amazon ac ati i gyd yn darparu gwefannau lleol (e.e. .co.uk yn hytrach na .com (America'n bennaf) yn unig). Dwi'n tueddu defnyddio mwy o amser ar wefannau .co.uk a .org.uk nag ar .com/.org/.net. (os am ddefnyddio'r we i siopa neu prynu gwasanaethau).

Ger llaw, sut fyddai dweud .cym yn Saesneg - ni fyddai'n "come" neu "cum!!", byddai mwy fel "k-yum" neu "kime"??

Mae llawer gan Cyprus i'w ateb amdano! Κύπρος yw e (neu Kýpros) - pam cy?? Mae hyd yn oed y Twrceg yn dechrau gyda 'K' (Kıbrıs)! Blydi Saeson eto.

Re: Spot the difference: £20,000 i dotCYM

PostioPostiwyd: Llun 20 Hyd 2008 10:19 pm
gan huwwaters
Mae thecoolhunter.co.uk yn enghraifft o wefan sy'n boblogaidd ledled y byd yn defnyddio parth lleol.

Re: Spot the difference: £20,000 i dotCYM

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 10:23 am
gan LLewMawr
nid yw'r UDA yn defnyddio .US fel canolbarth y rhyngrwyd a'r tarddle ers 90au cynnar maint yn defnyddio .com- sy'n eitha tebyg i sut mae LLoegr gyda 'The Rugby Union' neu 'The FA' tra bod pawb arall yn dynodi pa wlad mae ei chymdeithas yn orchuddio.

Re: Spot the difference: £20,000 i dotCYM

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 4:45 pm
gan ger4llt
Y ffor' hawsa i ateb y broblam o gael .cym mewn defnydd rwan 'di jysd symud gorchudd botwm "y" ar fysellfwrdd a'i swopio gyda "o" - felly fydd rhan helaeth o wefannau'r wê rwan yn dotcym. :) Sorted. (jysd peidiwch â edrych ar y bar cyfeiriad tra 'dachi'n teipio...)