Ray Diota a ddywedodd:Rhys Llwyd a ddywedodd:GDG a GB, nid trafodaeth am gyflogau AC ydy hwn, fel dy chi'n dweud mae'r cyflog yn is os rhywbeth na'r going rate am swydd debyg mewn meysydd eraill yn enwedig y Cyfryngau dyweder. Y drafodaeth yw costau a cam ddefnydd o hynny ac os ydych chi'n trio amddiffyn costau sy'n cynnwys £2000+ ar fwyta mas yna dwi'n cymryd eich bod chi'n un o'r bobl hynny gafodd eich tretio am stecen gan Rhodri Glyn neu Nerys Evans
Yn union. Ma cyflogau a chostau yn ddau fater hollol wahanol. Ma cyfiawnhau camddefnyddio costau drwy ddweud bo rhywun yn gweithio oriau hir yn hollol hurt!
Oes yna unrhyw awgrym bod 'na "gamddefnyddio costau" wedi bod? Dwi ddim yn ymwybodol bod neb wedi torri'r rheolau. Mae Aelodau Cynulliad wedi hawlio costau, yn unol ar drefn sydd wedi cael ei chytuno, a mae 'na bobl yn y fan hyn yn eu cyhuddo o fod yn "foch". A dwi'n credu bod yr agwedd hon yn un wenwynig.
Gadewch i mi ofyn be mae pawb yn gredu y dylai gwleidyddion ei dderbyn? Cyn 1912, doedd Aelodau Seneddol ddim yn derbyn cyflog, ac o'r herwydd dim ond cyfoethogion (a chynrychiolwyr undebau ac eglwysi) oedd yn gallu fforddio mynd i'r Senedd - sut oedd disgwyl i ddyn cyffredin roi ei wythnos gyfan i wleidyddiaeth a bwydo ei deulu? Ydych chi'n awgrymu y dylid mynd yn ol i'r drefn a fodolai cyn 1912?
Ta oes gan rhywun well awgrym? Gofyn i wleidyddion fyw ar y
minimum wage ella? Ond onid oes peryglon i hyn hefyd? Os yw gwleidydd yn gorfod crafu byw, onid yw'r temptasiwn i fod yn llwgr yn cynyddu? Hynny yw, os ydi'r "moch" yn byw ar ychydig gannoedd yr wythnos ac yn byw mewn neuadd preswyl - fel y mae rhai yn ei awgrymu y dylient - onid yw hi'n mynd yn fwy tebygol y bydd rhai yn defnyddio'r grym sydd ganddyn nhw i geisio gwneud ceiniog fudur, bob hyn a hyn?
Mae gen i ddiddordeb mewn gwybod, oes gan rhywun sydd wedi cyfrannu at yr edefyn yma yn cega ar wleidyddion un awgrym call, cadarnhaol, i'w wneud ynglyn a sut y dylid ariannu'r drefn wleidyddol?