Tudalen 1 o 5

Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Maw 12 Awst 2008 8:51 pm
gan Kez
Welas i hwn heddi odd ar wefan y BBC - http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7550000/newsid_7556600/7556650.stm
______________________________________________________________________________________________________
Mae aelodau etholaethol neu ranbarthol sy'n byw yng Nghaerffili, Caerdydd Canolog, Gogledd Caerdydd, de Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, Pontypridd a Bro Morgannwg yn gallu hawlio hyd at £3,9000 yn 2007/08 i dalu am gostau "aros oddi cartref dros nos."

Mae aelodau sydd yn byw y tu allan i'r ardaloedd yma yn gallu hawlio taliadau uwch o'r Lwfans Costau Ychwanegol o hyd at £12,500 yn 2007/08.

Gall hwn gael ei hawlio i dalu am aros oddi cartref dros nos, gan gynnwys taliadau llog morgais, rent a chelfi ar gyfer ail dy yng Nghaerdydd.

________________________________________________________________________________________________________

Fi alla i dderbyn bod aelodau'r Cynulliad sydd yn byw yn bell o Gaerdydd yn haeddu treuliau, ond 'sdim rhaid iti fyw yn bell o Gaerdydd i gael y £12,500, oes e?

Fe gei di'r un swm os ti'n byw yng Nghwm Tawe a Chwmbran a'r bobol sy'n byw yn Wrecsam a Chaernarfon. Mae'n braf ar rai - be sy'n bod ar gostau petrol yn unig i ambell i i un o'r ffycars gwancus o Dde Cymru :?

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Maw 12 Awst 2008 10:36 pm
gan Seonaidh/Sioni
gan gynnwys taliadau llog morgais, rent a chelfi ar gyfer ail dy yng Nghaerdydd


Felly, ymddengys fod aelodau'r cynulliad (wel, rhai ohonyn nhw) yn prynu ail gartrefi o gylch Caerdydd gyda chymorth y llywodraeth. Digwyddodd hynny yng Ngaeredin hefyd, efo Senedd yr Alban a'i haelodau, ond credaf fod stop wedi ei ddodi ar hynny rwan - taliadau am rent yn unig, dim taliad am forgais. Wedi'r cwbl, dyna chi, wedi cael eich ethol i'r Senedd (neu i'r Cynulliad) ac yn amheus am ddal i afael mewn sedd ar ol yr etholiad nesa. Peth doeth - prynu ty yn y brifddinas efo morgais wedi'w dalu gan y cyhoedd, colli sedd, gwerthu'r ty am ffortiwn. Mae hyn mor wael a gwerthu tai cyngor am ddiscownt anferth. Ac yn ddiamau bydd yr un sgam yn digwydd ymhlith yr AS yn Llundain.

Petrol? Mae na hen reol yn Holyrood sy'n gorfodi'r aelodau i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus os maen nhw eisiau cael treuliau'n ol. Ond mae'n bosibl i gyraedd Caeredin ar y tren yn ddigon uniongyrchol o bobman yn yr Alban: dydy hynny ddim yn wir am Gaerdydd a Chymru.

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2008 8:20 am
gan Hogyn o Rachub
Kez a ddywedodd:Fi alla i dderbyn bod aelodau'r Cynulliad sydd yn byw yn bell o Gaerdydd yn haeddu treuliau, ond 'sdim rhaid iti fyw yn bell o Gaerdydd i gael y £12,500, oes e?

Fe gei di'r un swm os ti'n byw yng Nghwm Tawe a Chwmbran a'r bobol sy'n byw yn Wrecsam a Chaernarfon. Mae'n braf ar rai - be sy'n bod ar gostau petrol yn unig i ambell i i un o'r ffycars gwancus o Dde Cymru :?


I fod yn onast dwi'm yn dallt sut y mae cyfiawnhau £3,900 am 'gostau dros nos' os wyt ti'n aelod yng Nghaerdydd :?

Dwi'n meddwl bod £12,500 yn ddigon teg, yn enwedig o ystyried aelodau sy'n gorfod teithio o'r gogledd neu'r gorllewin, ond mae'r ffaith bod rhywun o Fynwy neu Ferthyr yn cael yn warthus.

Mae'n eithaf troi arna i bod hwnnw o Fynwy 'di gwario £1,000 ar teledu surroundsound - son am gymryd y piss!

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2008 9:57 am
gan Rhys Llwyd
Hogyn o Rachub a ddywedodd:
I fod yn onast dwi'm yn dallt sut y mae cyfiawnhau £3,900 am 'gostau dros nos' os wyt ti'n aelod yng Nghaerdydd :?


Well i chdi ddarllen dim LOL i gael adroddiad llawn o lle mae'r expenses yn mynd. Gwestai?

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2008 10:41 am
gan Ray Diota
Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:Fi alla i dderbyn bod aelodau'r Cynulliad sydd yn byw yn bell o Gaerdydd yn haeddu treuliau, ond 'sdim rhaid iti fyw yn bell o Gaerdydd i gael y £12,500, oes e?

Fe gei di'r un swm os ti'n byw yng Nghwm Tawe a Chwmbran a'r bobol sy'n byw yn Wrecsam a Chaernarfon. Mae'n braf ar rai - be sy'n bod ar gostau petrol yn unig i ambell i i un o'r ffycars gwancus o Dde Cymru :?


I fod yn onast dwi'm yn dallt sut y mae cyfiawnhau £3,900 am 'gostau dros nos' os wyt ti'n aelod yng Nghaerdydd :?

Dwi'n meddwl bod £12,500 yn ddigon teg, yn enwedig o ystyried aelodau sy'n gorfod teithio o'r gogledd neu'r gorllewin, ond mae'r ffaith bod rhywun o Fynwy neu Ferthyr yn cael yn warthus.

Mae'n eithaf troi arna i bod hwnnw o Fynwy 'di gwario £1,000 ar teledu surroundsound - son am gymryd y piss!


Dyw £12,500 ddim yn ddigon teg o gwbwl! Ma fe'n ffortiwn. Ffigurau mor garedig sydd wedi gadael i Ramsey wario £1,000 ar deledu - os yw e 'na, ma'r diawled yn mynd i wario fe on'd y'n nhw? Ma sens yn gweud!

Does na ddim un ffordd yn y byd y dylen ni fod yn talu morgeisi'r bobol 'ma, ma'n hurt!

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2008 12:00 pm
gan Blewyn
Hogyn o Rachub a ddywedodd:I fod yn onast dwi'm yn dallt sut y mae cyfiawnhau £3,900 am 'gostau dros nos' os wyt ti'n aelod yng Nghaerdydd :?

Ymm...gweithio yn hwyr tan 23:00 ar rhyw fater o bwys cenedlaethol....codi am 5:00 er mwyn mynd i gyfarfod am 6:00.....gorfod aros mewn gwesty dros nos.....(efallai yn y Hilton ar y gornel mm neis..)

Be sydd ddim i'w ddeall ??

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2008 12:59 pm
gan Hogyn o Rachub
Pam aros yn yr Hilton os ti'n byw yng Nghaerdydd? Dyna sili.
[gol. newydd ddallt ein camddealltwriaeth, ro'n i'n golygu 'aelod sy'n cynrychioli Caerdydd' yn hytrach nac 'aelod o'r cynulliad yng Nghaerdydd']

Wrth edrych ar rai o'r pethau mae'r rhan wedi gwario ar, mae'n wirioneddol warthus. Leslie Griffiths yn gwario £2,000 ar soffa, Nerys Evans yn gwario £3,000+ ar fwyta allan. Sgen i ddim problem efo aelodau nad ydyn nhw'n gallu comiwtio yn cael lwfans byw o ryw fath, ond mae rhai o'r gwariannau yn, wel, anodd cyfiawnhau, ddywedwn ni?

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2008 8:15 pm
gan Rhys Llwyd
Nerys Evans a Rhodri Glyn yn hawlio £3000 yr un yn bwyta mas yn warthus! Hyd yn oed os oedd rhaid cael 'working' lunch a oedd wir angen fillet steaks, cimwch a photeli o'r Rioja gorau bob tro?

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2008 1:54 pm
gan Cardi Bach
Rhys Llwyd a ddywedodd:Nerys Evans a Rhodri Glyn yn hawlio £3000 yr un yn bwyta mas yn warthus! Hyd yn oed os oedd rhaid cael 'working' lunch a oedd wir angen fillet steaks, cimwch a photeli o'r Rioja gorau bob tro?


Dim mod i'n gwbod, ond falle bo nhw wedi defnyddio cyllideb bwyd ar gyfer bwffes ayb yn eu hethloaethau ar gyfer y cyhoedd fel rhan o drafodaeth neu ymgynghoriad cyhoeddus.

Ond heblaw am hyn, c'mon bois bach (hynny yw yr ACau) dy'n nhw ddim yn helpu eu hunen yn nagyn. Siwd ma disgwyl cael cefnogaeth eang i'r sefydliad os odyn nhw'n mynd a thrin y peth fel tren grefi?

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2008 7:54 pm
gan Rhys Llwyd
Cardi Bach a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Nerys Evans a Rhodri Glyn yn hawlio £3000 yr un yn bwyta mas yn warthus! Hyd yn oed os oedd rhaid cael 'working' lunch a oedd wir angen fillet steaks, cimwch a photeli o'r Rioja gorau bob tro?


Dim mod i'n gwbod, ond falle bo nhw wedi defnyddio cyllideb bwyd ar gyfer bwffes ayb yn eu hethloaethau ar gyfer y cyhoedd fel rhan o drafodaeth neu ymgynghoriad cyhoeddus.

Ond heblaw am hyn, c'mon bois bach (hynny yw yr ACau) dy'n nhw ddim yn helpu eu hunen yn nagyn. Siwd ma disgwyl cael cefnogaeth eang i'r sefydliad os odyn nhw'n mynd a thrin y peth fel tren grefi?


yn hollol. os dalu am bwffes etc etc dwi'n amau y bydde nhw wedi nodi hynny ond wnaetho nhw ddim so tren grefi go-iawn dwin amau