Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae Garnet Bowen yn dadlau fod perffaith hawl gyda nhw fwyta mas bob nos hyd yn oed os oes fflat a chegin gyda nhw. Dwi'n tueddu i gytuno mwy gyda ti Sian, dydy bod yn AC ddim yn job arferol oherwydd gyda job arferol aros ffwrdd mewn gwesty fyddi di dwyt ti ddim yn cael fflat gyda'r trewthdalwyr yn talu rhent neu'r morgais.
Mae'n bur debyg mai mater o ymarferoldeb ydi hyn yn fwy na dim arall. Sut arall fyddai'r system yn gallu gweithio? Fe ellid cael trefn lle mae ACau yn cael arian at fwyd i'w goginio adref, ond dim at fwyta allan - ond fe fyddai hynny'n anheg, oherwydd nad yw bwyta adref yn ymarferol bob tro. Beth felly? Rheol yn dweud bod AC yn cael pryd allan 2 waith yr wythnos? 3 gwaith yr wythnos?