Welas i hwn heddi odd ar wefan y BBC - http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7550000/newsid_7556600/7556650.stm
______________________________________________________________________________________________________
Mae aelodau etholaethol neu ranbarthol sy'n byw yng Nghaerffili, Caerdydd Canolog, Gogledd Caerdydd, de Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, Pontypridd a Bro Morgannwg yn gallu hawlio hyd at £3,9000 yn 2007/08 i dalu am gostau "aros oddi cartref dros nos."
Mae aelodau sydd yn byw y tu allan i'r ardaloedd yma yn gallu hawlio taliadau uwch o'r Lwfans Costau Ychwanegol o hyd at £12,500 yn 2007/08.
Gall hwn gael ei hawlio i dalu am aros oddi cartref dros nos, gan gynnwys taliadau llog morgais, rent a chelfi ar gyfer ail dy yng Nghaerdydd.
________________________________________________________________________________________________________
Fi alla i dderbyn bod aelodau'r Cynulliad sydd yn byw yn bell o Gaerdydd yn haeddu treuliau, ond 'sdim rhaid iti fyw yn bell o Gaerdydd i gael y £12,500, oes e?
Fe gei di'r un swm os ti'n byw yng Nghwm Tawe a Chwmbran a'r bobol sy'n byw yn Wrecsam a Chaernarfon. Mae'n braf ar rai - be sy'n bod ar gostau petrol yn unig i ambell i i un o'r ffycars gwancus o Dde Cymru