Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

Postiogan ceribethlem » Iau 04 Medi 2008 7:24 am

Cywirwch fi os dwi'n anghywir, ond nid costau bwyta mas cyffredin yw rhain ife? Onid costau bwyta mas ar gyfer cyfarfodydd yn rhinwedd eu swyddi fel gwleidyddion ydyn nhw?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

Postiogan sian » Iau 04 Medi 2008 8:04 am

ceribethlem a ddywedodd:Cywirwch fi os dwi'n anghywir, ond nid costau bwyta mas cyffredin yw rhain ife? Onid costau bwyta mas ar gyfer cyfarfodydd yn rhinwedd eu swyddi fel gwleidyddion ydyn nhw?


O beth dw i'n ddeall, costau ar gyfer ail gartref yw'r rhain - nid costau'n ymwneud â'u swyddi fel gwleidyddion.
Hynny yw, os yw aelod eisiau mynd mas â rhywun i swper yn rhinwedd ei swydd, nid o'r gronfa yma y byddai'n dod. Ie? Na?
Neu pam nad yw pawb yn hawlio swm ar gyfer prydau?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 04 Medi 2008 8:47 am

ceribethlem a ddywedodd:Cywirwch fi os dwi'n anghywir, ond nid costau bwyta mas cyffredin yw rhain ife? Onid costau bwyta mas ar gyfer cyfarfodydd yn rhinwedd eu swyddi fel gwleidyddion ydyn nhw?


Ie mae Sian yn iawn, costau yn ymwneud ag ail-dy yw rhain. Felly er enghraifft, dywed fod cyfarfod yn mynd yn hwyr yn y cynulliad a bod Mr. Jo Bloggs AC dwyrain Aberangell yn teimlo'n llwyglyd ar y ffordd adre yn hytrach na mynd adre i'w ail-dy yn y Bae a choginio bwyd fel sy rhaid i bawb arall maen penderfynnu galw heibio bwyty ar y ffordd adre a hawlio'r arian yn ôl gan ddadlau fod y cyfarfod hwyr wedi ei "orfodi" i gymryd y gost ychwanegol yna mlaen.

O'i roi mewn cyd-destun arall. Dwi'n warden yn JMJ yma ym Mangor. Am fy ngwaith dwi'n cael "costau" sef fflat am ddim a chegin ynddi. Dychmygwch pe tae'r Brifysgol yn fodlon i mi slipio lawr i'r Pier i gael Italian bob nos a'i hawlio nol er eu bod nhw wedi fy narparu a fflat ac ynddo gegin a sospannau.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

Postiogan Cardi Bach » Iau 04 Medi 2008 2:50 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd: Dwi'n warden yn JMJ yma ym Mangor. Am fy ngwaith dwi'n cael "costau" sef fflat am ddim a chegin ynddi. Dychmygwch pe tae'r Brifysgol yn fodlon i mi slipio lawr i'r Pier i gael Italian bob nos a'i hawlio nol er eu bod nhw wedi fy narparu a fflat ac ynddo gegin a sospannau.


Nid dim ond costau byw yr ACau sy'n drewi te Rhys :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 04 Medi 2008 9:34 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd: Dwi'n warden yn JMJ yma ym Mangor. Am fy ngwaith dwi'n cael "costau" sef fflat am ddim a chegin ynddi. Dychmygwch pe tae'r Brifysgol yn fodlon i mi slipio lawr i'r Pier i gael Italian bob nos a'i hawlio nol er eu bod nhw wedi fy narparu a fflat ac ynddo gegin a sospannau.


Nid dim ond costau byw yr ACau sy'n drewi te Rhys :winc:


Ond dwi'n cael £0 nid £50,000 fel cyflog :P
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

Postiogan Garnet Bowen » Mer 10 Medi 2008 9:08 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:. Dwi'n warden yn JMJ yma ym Mangor. Am fy ngwaith dwi'n cael "costau" sef fflat am ddim a chegin ynddi. Dychmygwch pe tae'r Brifysgol yn fodlon i mi slipio lawr i'r Pier i gael Italian bob nos a'i hawlio nol er eu bod nhw wedi fy narparu a fflat ac ynddo gegin a sospannau.


Mi fyswn i'n awgrymu bod dy brofiad di yn un anghyffredin. Yn y rhan fwyaf o swyddi, os wyt ti'n gorfod mynd oddi cartref i weithio, ti'n disgwyl gallu hawlio dy holl gostau byw yn ol gan y cwmni. Hynny yw, os wyt ti'n byw yng Nghaernarfon, a ti'n gorfod mynd ar drip busnes i Lundain, mae'r cwmni yn talu am westy, tren, bwyd a diod. Ac mae system dreuliau'r Cynulliad yn gweithio yn union yr un ffordd. Hynny yw, os wyt ti'n AC yn Arfon, mae 'na ragdybiaeth mai trigolion Arfon yw dy gyflogwyr di, ac eu bod nhw yn dy yrru di i lawr i weithio i Gaerdydd am 3 diwrnod bob wythnos. Tra ti yno, mae nhw'n talu dy gostau byw.

Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o gwmniau yn rhoi cyfyngiad ar yr hyn y gall gweithwyr ei hawlio. Fyddai'r rhan fwyaf o fosus ddim yn fodlon petai'r gweithiwr yn dychwelyd adref o Lundain efo derbyneb am bryd o fwyd yn Claridge's sydd wedi costio £200. Ac mae'n siwr mai dyma'r cwestiwn - a ydi'r ACau wedi cyflwyno cais am gostau sydd yn gyfystyr a phryd bwyd £200? Hynny yw, oes 'na unrhyw aelod wedi cymryd y piss?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 10 Medi 2008 9:50 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o gwmniau yn rhoi cyfyngiad ar yr hyn y gall gweithwyr ei hawlio. Fyddai'r rhan fwyaf o fosus ddim yn fodlon petai'r gweithiwr yn dychwelyd adref o Lundain efo derbyneb am bryd o fwyd yn Claridge's sydd wedi costio £200. Ac mae'n siwr mai dyma'r cwestiwn - a ydi'r ACau wedi cyflwyno cais am gostau sydd yn gyfystyr a phryd bwyd £200? Hynny yw, oes 'na unrhyw aelod wedi cymryd y piss?


Dyna'r peth. Gellid dadlau y dylem ni fel trethdalwyr dalu gostau y bobl sydd allan yna yn gweithio "ar ein rhan" ond i darro bill o dros £2,000 fyny ar fwyta allan maen rhaid bod sawl potel o win yn involved a hyd yn oed hawlio costau yn ôl am bryd o fwyd ffrind neu ddau oedd jest allan am social.

Yr hyn sydd angen ydy brêc down llwyr yn dangos fod yr hyn maen nhw'n hawlio nol yn deg a rhesymol a ddim yn cynnwys pethau fel alcohol a stêcs bob nos. Dwi'n meddwl fod brêc down yn well na caps oherwydd duda dy fod di'n rhoi caps o £10 y noson am fwyd, fel 3 noson = £30 yr wythnos x52 yn dod i £1,560 beth bynnag sydd ddim lot llai na rhai o'r bwytawyr mawr presennol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

Postiogan sian » Mer 10 Medi 2008 10:02 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod brêc down yn well na caps oherwydd duda dy fod di'n rhoi caps o £10 y noson am fwyd, fel 3 noson = £30 yr wythnos x52 yn dod i £1,560 beth bynnag sydd ddim lot llai na rhai o'r bwytawyr mawr presennol.


Ond dydyn nhw ddim yng Nghaerdydd 52 wythnos y flwyddyn ac os oes ganddyn nhw fflat, does dim rhaid iddyn nhw fwyta mas BOB nos does bosib.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 11 Medi 2008 7:40 am

sian a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod brêc down yn well na caps oherwydd duda dy fod di'n rhoi caps o £10 y noson am fwyd, fel 3 noson = £30 yr wythnos x52 yn dod i £1,560 beth bynnag sydd ddim lot llai na rhai o'r bwytawyr mawr presennol.


Ond dydyn nhw ddim yng Nghaerdydd 52 wythnos y flwyddyn ac os oes ganddyn nhw fflat, does dim rhaid iddyn nhw fwyta mas BOB nos does bosib.


Dyna oedd fy mhwynt gwreiddiol i ond mae Garnet Bowen yn dadlau fod perffaith hawl gyda nhw fwyta mas bob nos hyd yn oed os oes fflat a chegin gyda nhw. Dwi'n tueddu i gytuno mwy gyda ti Sian, dydy bod yn AC ddim yn job arferol oherwydd gyda job arferol aros ffwrdd mewn gwesty fyddi di dwyt ti ddim yn cael fflat gyda'r trewthdalwyr yn talu rhent neu'r morgais.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

Postiogan sian » Iau 11 Medi 2008 8:11 am

Wrth gwrs, os oes ganddyn nhw hyd at £12,5000 i'w wario ar gostau ail gartref, does dim ots sut maen nhw'n ei wario - efallai bod rhai wedi dewis hawlio am brydau ond eu bod nhw wedi prynu gwely neu wardrob neu sosban â'u harian eu hunain gan feddwl ei bod yn annheg i'r trethdalwr dalu am hynny gan y bydd gyda nhw ar ôl i'w tymor yn y Bae ddod i ben. Ond, i mi, mae £3000 am brydau yn swnio'n lot mwy extravagant na £2000 am soffa.

Dw i newydd feddwl - pam maen nhw'n cael hawlio costau prydau fel rhan o gostau ail gartref os oes ganddyn nhw fflat? Fysen ni'n edrych yn wirion tyse nhw'n hawlio am bwys o sosejis, pacyn o oven chips a dwy foronen.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 8 gwestai

cron