Tudalen 2 o 5

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2008 8:50 pm
gan sian
Os ydw i wedi deall yn iawn, onid costau ail gartref yw'r rhain?
Os oes ganddyn nhw ail gartref yng Nghaerdydd, pam yr holl wariant ar fwyta allan?
Dw i'n meddwl bod un aelod wedi hawlio rhywbeth fel £280 am gostau galwadau ffôn symudol hefyd - shwt mae hyn yn dod o dan gostau ail gartref?

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2008 9:06 pm
gan Y tlawd hwn
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'n eithaf troi arna i bod hwnnw o Fynwy 'di gwario £1,000 ar teledu surroundsound - son am gymryd y piss!


Dyna'r ffacin joc fwya dwi di clywed ers sbel. Hollol hollol warthus :drwg:

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2008 9:12 pm
gan Y tlawd hwn
Rhys Llwyd a ddywedodd:Nerys Evans a Rhodri Glyn yn hawlio £3000 yr un yn bwyta mas yn warthus! Hyd yn oed os oedd rhaid cael 'working' lunch a oedd wir angen fillet steaks, cimwch a photeli o'r Rioja gorau bob tro?


'Sdim ryfedd bo fe Rhodri Glyn wedi mynd bach yn chubby'n ddiweddar oes e? A synnen i ddim mai dan effaith y Rioja oedd e pan driodd e ddarllen y darn bach papur 'na ddim sbelen nol... :D

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2008 10:34 am
gan Rhys Llwyd
sian a ddywedodd:Os ydw i wedi deall yn iawn, onid costau ail gartref yw'r rhain?
Os oes ganddyn nhw ail gartref yng Nghaerdydd, pam yr holl wariant ar fwyta allan?


Yn hollol, diog a ddim awydd mynd i Tesco a stocio'r frij dwi'n amau. Maen ymddangos fod yn rhaid i bawb ddysgu bod yn ddarbodus a chwilio am y bareinion yn Tesco oherwydd y "credit crunch" heblaw am yr Aelodau Cynulliad sydd jest yn gallu picio i Bella Italia neu'r Spice Merchant ar y ffordd adre o'r gwaith pob dydd a'i hawlio fe nol gan eu bod nhw yn gorfod bod yng Nghaerdydd gyda'i gwaith.

Mae hawlio costau ail dy os wyt ti'n byw ymhellach na rhyw awr o'r Bae yn ddigon teg dwi'n meddwl ond mae bwyta mas tra dy fod di yn dy ail-dy yn warthus ac yn ddim byd mwy na chymryd matais.

Ma eishiau iddyn nhw, yn enwedig y Parch. RGTh ddarllen Nehemeia 5:14-19

"...ni fwyteais i na'm brodyr ddogn bwyd y llywodraethwr. Bu'r llywodraethwyr blaenorol oedd o'm blaen i yn llawdrwm ar y bobl, ac yn cymryd ganddynt bob dydd fara a gwin gwerth deugain sicr o arian. Yr oedd eu gwesiwion hefyd yn arglwyddiaethu ar y bobl. Ond ni wneuthum i ymddwyn fel hyn am fy mod yn ofni Duw... ni ofynnais am ddogn bwyd y llywodraethwr am ei bod yn galed ar y bobl."

Gwers dda i'r Aelodau boliog Cynulliad.

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2008 3:36 pm
gan Garnet Bowen
Does gen i ddim llawer o fynedd efo'r agwedd yma sy'n collfarnu Aelodau Cynulliad am ennill arian (a chostau da). Mae'r bobl hyn yn gwneud gwaith hynod o galed, dros oriau hir iawn. Ac yn wahanol i'r rhan fwyaf o swyddi, does dim sicrwydd hir dymor. Be mae rhywun yn ei wneud ar ol colli sedd yn y Cynulliad? Be ydi'r cam nesaf yn eich gyrfa?
O ystyried hyn i gyd, mae tal Aelodau Cynulliad yn gymhedrol iawn. Mae nhw'n ennill llai o lawer na nifer o bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Ydi hi'n deg disgwyl i Aelod Cynulliad fodloni ar gyflog sydd yn llai na llawer iawn o'i gweision sifl, neu reolwyr gwasanaeth iechyd, neu hyd yn oed uwch-swyddogion ein cynghorau sir?

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2008 4:35 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Garnet Bowen a ddywedodd:Does gen i ddim llawer o fynedd efo'r agwedd yma sy'n collfarnu Aelodau Cynulliad am ennill arian (a chostau da). Mae'r bobl hyn yn gwneud gwaith hynod o galed, dros oriau hir iawn. Ac yn wahanol i'r rhan fwyaf o swyddi, does dim sicrwydd hir dymor. Be mae rhywun yn ei wneud ar ol colli sedd yn y Cynulliad? Be ydi'r cam nesaf yn eich gyrfa?
O ystyried hyn i gyd, mae tal Aelodau Cynulliad yn gymhedrol iawn. Mae nhw'n ennill llai o lawer na nifer o bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Ydi hi'n deg disgwyl i Aelod Cynulliad fodloni ar gyflog sydd yn llai na llawer iawn o'i gweision sifl, neu reolwyr gwasanaeth iechyd, neu hyd yn oed uwch-swyddogion ein cynghorau sir?


Bach o synnwyr o'r diwedd. Diolch byth.

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2008 6:45 pm
gan sian
Dw i'n meddwl bod pennawd y Daily Post - "She spent £2,078 of your cash on a sofa ... and she's not alone as £400K splashed out on second homes" - yn hollol annheg.
Mae'n iawn i Aelodau Cynulliad gael lle cysurus i aros yng Nghaerdydd.
Ond mae gwario £3000 ar "meals" yn siwr o ddenu beirniadaeth.
Ac erbyn edrych, fe hawliodd Jocelyn Davies £647.86 + £286.55 ar gostau ffonio ar gyfer ei hail gartref - shwt mae hynny'n bosib?

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2008 8:36 pm
gan Darth Sgonsan
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Does gen i ddim llawer o fynedd efo'r agwedd yma sy'n collfarnu Aelodau Cynulliad am ennill arian (a chostau da). Mae'r bobl hyn yn gwneud gwaith hynod o galed, dros oriau hir iawn. Ac yn wahanol i'r rhan fwyaf o swyddi, does dim sicrwydd hir dymor. Be mae rhywun yn ei wneud ar ol colli sedd yn y Cynulliad? Be ydi'r cam nesaf yn eich gyrfa?
O ystyried hyn i gyd, mae tal Aelodau Cynulliad yn gymhedrol iawn. Mae nhw'n ennill llai o lawer na nifer o bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Ydi hi'n deg disgwyl i Aelod Cynulliad fodloni ar gyflog sydd yn llai na llawer iawn o'i gweision sifl, neu reolwyr gwasanaeth iechyd, neu hyd yn oed uwch-swyddogion ein cynghorau sir?


Bach o synnwyr o'r diwedd. Diolch byth.


BOW LYCS DELUX. 'gwneud gwaith hynod o galed'? troi fyny o amsar cinio dy'Mawrth tan jesd cyn cinio dydd Iau (deuddydd o 'waith') yn deud bod angan seat belts ar fysus cyn cyfadda bod dim hawl i fynnu bod angan seat belts, neu cael pwyllgor i anwybyddu argymhellion Clywch neu ayyb. . h.y. malu ffacin shit diwerth dibwrpas a.k.a. chwarae gwleidydda

'dim sicrwydd hirdymor' = pwy yn union, ar wahan Fandarins Llywodraeth Leol, sy'n cael hyn? ti#n sefyll etholiad, ti'n dalld y sgor - os ti ddim yn perfformio, ti allan ymhen 4/5 mlynedd - dydi'r diffyg sicrwydd hirdymor ddim yn reswm i hawlio £3k am sdwffio dy wep.

y cwestiwn carem ateb iddo yw hyn - os oes yr holl gostau hyn yn cael eu hawlio am am soffas a chimwch a rioja - ar be ffwc mae Aelod Cynulliad yn actiwali gwario ei gyflog? ynteu ydi'r cyflog yna i fod i gael ei gynilo ar gyfer y llwmddyddiau pan fydd yr Ac ar y clwt a methu ffindo gwaith go-iawn?

roed y codiad 8% ddigon i godi pych. ma'r busnas costau yma, fel wetws Cardi Bach, yn bradychu'r syniad o ddatganoli a thegwch i bawb. afiach afiach afiach...dim rhyfadd bod ol byw'r bywyd bras ar gymaint o Ac'au. Y Moch

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2008 10:18 pm
gan 7ennyn
Faint yn llai na £400,000 fysa hi'n gostio i redeg bloc o fflatiau hefo ffreutur, bwrdd snwcer ac ystafell deledu ar gyfer y moch? Dwi'n siwr bod yma wardeiniaid neu gyn-wardeiniaid neuaddau preswyl ar y maes 'ma fedar rhoi rhyw syniad o be fysa'r gost.

Re: Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad

PostioPostiwyd: Llun 18 Awst 2008 9:27 am
gan Garnet Bowen
7ennyn a ddywedodd:Faint yn llai na £400,000 fysa hi'n gostio i redeg bloc o fflatiau hefo ffreutur, bwrdd snwcer ac ystafell deledu ar gyfer y moch? Dwi'n siwr bod yma wardeiniaid neu gyn-wardeiniaid neuaddau preswyl ar y maes 'ma fedar rhoi rhyw syniad o be fysa'r gost.


Os ti'n ystyried mai "moch" yw aelodau'r Cynulliad, a'u bod nhw'n haeddu cael eu trin fel sdiwdants blwyddyn gyntaf, yna digon teg. Ond yn bersonol, dwi ddim yn credu mai dyma'r ffordd o drin pobl sydd yn gwneud gwaith caled ac angenrheidiol. Mae'n ymddangos i fi bod rhai pobl yn disgwyl i wleidyddion ymddwyn fel seintiau, byw fel cybyddion, ac yna rhoi eu hunain yn y stocks ar ddiwedd y dydd.