Beth mae fod yn Gymro / Gymraes yn golygu? Beth ydych chi'n meddwl sy'n gwneud person yn Gymro? A oes rhywbeth mwy iddo na teimlad mewnol?
Trafodwch.
Cymedrolwr: Mr Gasyth
ceribethlem a ddywedodd:Joio beio pawb a phopeth am ein problemau cynhenid ni.
CapS a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Joio beio pawb a phopeth am ein problemau cynhenid ni.
Bod ag obsesiwn bod "nhw" * â dim byd gwell i wneud gyda'u hamser na pigo arnom ni yn bersonol a gwneud ein bywyd yn uffern a thanseilio'n holl credoau.
* Mae "nhw" yn newid yn gyson - o leiaf yn ddyddiol, os nad bod chwarter awr, yn ddibynol ar beth bynnag yr ydym wedi mynd radio rental drosti ar y pryd.
Griff-Waunfach a ddywedodd:CapS a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Joio beio pawb a phopeth am ein problemau cynhenid ni.
Bod ag obsesiwn bod "nhw" * â dim byd gwell i wneud gyda'u hamser na pigo arnom ni yn bersonol a gwneud ein bywyd yn uffern a thanseilio'n holl credoau.
* Mae "nhw" yn newid yn gyson - o leiaf yn ddyddiol, os nad bod chwarter awr, yn ddibynol ar beth bynnag yr ydym wedi mynd radio rental drosti ar y pryd.
Diddorol. Ond byddwn i yn dweud mai agwedd o'n cymeriad ni yw hwnnw ac nid rili diffiniad o beth yw'r creadur a elwir yn Gymro. Beth sy'n gwahaniaethu ni rhag y Saes, neu'r Gwyddel.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai