Gwyddel sy'n dysgu Cymraeg

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwyddel sy'n dysgu Cymraeg

Postiogan y dulynwr » Maw 19 Awst 2008 10:50 am

Roeddwn yn dechrau dysgu Cymraeg yn fwy na ugain mylynedd yn ol (mae'n ddrwg gennyf am y gramedig) yn y coleg yn Nulyn. Roeddem ni'n ymweld a'r prifysgol ym Mangor bob blwyddyn a roeddwn yn gwneud gwaith am deledu Cymraeg am spel hefyd. Hoffwn cadw mewn cysyllt gyda siaradwyr Cymraeg i gael ymarfer defnyddio fyng Nghymraeg a'n ychwanegu fyng ngeirfa- dyna'r rheswm fy mod yn postio hwn. Didwi ddim yn dda gyda pethau technoleg chwaith. Felly mae yma'n anodd i fi. Dwi'n gweithio mewn radio a theledu yn Iwerddon, felly rhaid i fi gwilio ar dipyn bach o raglenni S4C a gwrando ar Radio Cymru. Dyna'r dyfydol. Gobeithio mynd i Gaernarfon y flywyddyn nesaf am y Wyl Celtaidd.

Dyna fi am spel. Ti'n gallu holi cwestiwnau i fi os bydd yn dda gennyt...
y dulynwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Maw 19 Awst 2008 10:33 am
Lleoliad: Dulyn

Re: Gwyddel sy'n dysgu Cymraeg

Postiogan SerenSiwenna » Maw 19 Awst 2008 1:47 pm

Helo 'na,

Wnes i greu neges hwylus yn dy groesawi di i'r maes ond mi diflannodd am ryw reswm, jest yn mynd i bostio hwn i sicrhau fod e'n cyrraedd
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Gwyddel sy'n dysgu Cymraeg

Postiogan SerenSiwenna » Maw 19 Awst 2008 1:52 pm

Reit ta, croeso i'r maes :P

Paid a phoeni am gramadeg na gwallau iaith, rwyf innai o Wrecsam ac yn Gymraes o'r crud...ag eto mae fy nghymraeg innai dal fel Saesneg David Beckham :rolio:

Gelli di ymuno a trafodiaethau yma neu creu un dy hun ac yna aros am pobl i ymateb a chael sgwrs. O ni ddim yn rhu sicr am y stwff wefannau ma chwaith pan wnes i gychwyn ar y maes, ag, gan i mi fyw yn ninas Lerpwl ers 10 mlynedd bellach roedd fy nghymraeg i yn fwy dodjey fyth! Ond bob yn dipyn ddes i yn gyfarwydd a'r hen le :D

Pob hwyl i ti yn dy quest i fod yn faeswr :winc:

Gyda llaw, diddorol fysa cael gwybod beth oedd wedi dy ysbrydoli i ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf? 8)
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Gwyddel sy'n dysgu Cymraeg

Postiogan Llefenni » Maw 19 Awst 2008 1:59 pm

Heia a chroeso Dylunwr! Gobeithio gei di amser braf ar y maes - a falle allwn ni drefnu trip allan i dy weld yn Nulun ( :winc: !)

:D
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Gwyddel sy'n dysgu Cymraeg

Postiogan Mali » Maw 19 Awst 2008 3:32 pm

Helo Dulynwr, a chroeso mawr i maes-e . 8) 'Rwyt wedi dod i'r lle iawn i ymarfer a defnyddio dy Gymraeg !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Gwyddel sy'n dysgu Cymraeg

Postiogan Prysor » Gwe 22 Awst 2008 1:58 pm

Cead mile failte, Ddulynwr.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gwyddel sy'n dysgu Cymraeg

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 22 Awst 2008 6:06 pm

A charaid à B.A.C.,
Oes Gaeleg gen' ti (A bheil Gàidhlig agad)? Beth bynnag, croeso, fàilte agus tha mi 'n dòchas gun còrd riut am fòram seo. Gach seòl / Pob hwyl Seonaidh
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Gwyddel sy'n dysgu Cymraeg

Postiogan y dulynwr » Llun 25 Awst 2008 9:34 am

Does llawer o Gaidhlig genni. Roeddwn yn cymryd gwersi ynddo yn y pryfysgol. Barddoniaeth y rhyfel cyntaf, Somhairle Mac Gill Eain, etc gyda Seosamh Watson. Ond y mae'n bosibl fy mod yn deall fwy nad dwy'n sylwi. Dwi'n cofio: Tha mi sgith. Roeddwn yn un o rheithwyr am y gwobr am radio yn y Gwyl Celtaidd eleni ac yr oeddwn yn cwrdd a Neil Mitchison sy'n siarad Gaidhlig, a'i wraig sy'n dod o Iwerddon yn Siarad Gaidhlig, Gwyddeleg a Chymraeg....Roeddem ni'n gwneud Cernyweg Canol yn y gradd hefyd ond did wi ddim wedi cofio unrhyw Gernyweg chwaith.
y dulynwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Maw 19 Awst 2008 10:33 am
Lleoliad: Dulyn

Re: Gwyddel sy'n dysgu Cymraeg

Postiogan Cosyn » Llun 25 Awst 2008 2:27 pm

Dwi'n byw yn D6 ers flwyddyn ag weithiau yn mynd i digwyddiadau cymdeithas Cymraeg Iwerddon - Y Draig Werdd. Mae nhw'n cynal Cylch Sgwrsio Cymraeg yn y Gaelchultúir Centre, Filmbase, Temple Bar. Dwi'n meddwl fydd nhw'n ail ddechrau yn mis Medi.
Rhithffurf defnyddiwr
Cosyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Llun 04 Chw 2008 6:47 pm
Lleoliad: Yr Ynys Werdd

Re: Gwyddel sy'n dysgu Cymraeg

Postiogan y dulynwr » Llun 25 Awst 2008 4:26 pm

Diolch Cosyn. Dwi'n derbyn yr ebostiau o'r Draig Werdd a dwi'n meddwl fod Y Cylch Dysgwyr yr un peth sy'n digywdd sy'n hollol yng Nghymraeg. Dwi'n mynd i'r cyfarfod yn y Filmbase weithiau ac y mae'n dda iawn, mae Geraint Waters yn gwneud gwaith da ac y mae o'n amyneddgar iawn gyda'r iaith hefyd, yr oedd o'n trefnu cangen Cyd o flaen hefyd. Mae'n hw'n son am fynd i dafarnau i weld gemau ond does neb yn son am y pobl yn siarad Cymraeg. Roeddwn yn meddwl am ymuno a'r Rwgbi Cwrdd ond dwn i ddim.
y dulynwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Maw 19 Awst 2008 10:33 am
Lleoliad: Dulyn


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron