Bwmbarech a ddywedodd:Mae'r cwari di cau ers nos Lun. Beth bynnag mae o di cyflwyno cais i dynnu cwari i lawr a codi 5 ty!!!!! Dim rhai fforddiadwy chwaith. ond maes cynllunio fel byd y freemasons i ni......
Helpwch ni!!
Ty Tafarn enwog yn Llanllyfni ydi Cwari gyda llaw - dim byd yn grand ond relaxed
Ar Oogle des i o hyd i "The Quarryman's Arms" yn Llanllyfni. Eniwe. Dw i ddim yn gyfarwydd a rheolau cynllunio yng Nghymru a chreda i bod nhw tipyn yn wahanol i'r rhai sy gennym ni yma yn yr Alban. Er enghraifft, pa lais sy gen y Cyngor Cymuned yn Llanllyfni? Rydw i'n aelod or' cyngor cymuned lle dwi'n byw ac mae gennym yr Hawl i Gael ein Consyltio ar bob mater cynllunio yn ein hardal ni - ond dyna fo, dim hawl i gael ystyried o'n barnau ni gan yr Awdurdod Cynllunio (i fi, Cyngor Fife, i chi, swn i'n credu Cyngor Gwynedd).
Yn gyntaf, ai listed building ydy'r Cwari? Os ie, bydd yn help mawr i chdi.
Yn ail, oes na reolau yn eich ardal ynglyn a thai "fforddiadwy"? Lle dw i'n byw, mewn pentrefi mae rhaid i bob scheme am 10 neu fwy o dai gynnwys rhai "fforddiadwy". Os bydd gennych chi ffigur is, e.e. 5, dyna help hefyd. Ac hyd yn oed os peidio, mae'n werth dadlau dros dai "fforddiadwy" wrth ystyried natur yr ardal (mae angen am dai digon rhad er mwyn gwrthsefyll diboblogeiddio ardaloedd cefnwlad ond oes).
Yn drydydd, rhaid edrych yn llym ar y cynlluniau. Ble'n union bydd y 5 ty? Fydd digon o ardd ganddyn nhw? Digon o le rhyngddyn nhw? Digon o fynediad am (e.e.) y Gwasanaethau Argyfwng? Beth am sut basen nhw'n effeithio ar yr adeiladau eraill o'u cwmpas?
Yn bedwerydd, y pyb. Mae o'n rhan bwysig o fywyd Llanllyfni ac basai bywyd hebddo fel rhwygo'r galon allan o'r pentref. Wel, byddwch chi'n gwybod yn well na finnau am yr effeithiau - gwerth son amdanyn nhw.
Yn gyffredinol, bydd 10 llythyr o brotest at yr awdurdod cynllunio (pob un yn codi rhyw bwynt dilys o ran cynllunio) yn werth lot mwy na deiseb wedi llofnodi gan 100. Yn yr Alban, mae llythyr tebyg gan yn cyngor cymundeb lleol yn werth ychydig yn fwy na llythyr gan aelod y cyhoedd (ond dim ond ychydig).
Peth i watsio am ydy arson. Lle dw i'n byw dan ni wedi colli o leiaf 3 adeilad rhestredig oedd "yn y ffordd" o ryw developer i dan. Damweiniol i gyd, wrth gwrs. Cysylltwch a'r heddlu am hyn rhag ofn.
Pob lwc.