Gog y Cwm a ddywedodd:"Mae John Toshack, boss Cymru, wedi'i enwi James Collins... yn ei dîm Cwpan y Byd, er bod mae'r ddau heb 'di chwarae gem i West Ham y tymor yma"
Be bynnag ddeudi di am frawddeg fel honna, o leia mi fedri di ddychmygu rhywun yn ei deud hi ar lafar. Heblaw am 'boss', cystrawen lafar naturiol (anghywir) ond CYMREIG sydd yna.
Mae hyn i mi yn gwneud i'r Daily Post gachu ar Golwg o ran yr iaith. Mae sut mae Golwg yn cofnodi iaith lafar yn boen yn dîn go iawn. Petha hollol wirion a ffals ac artiffisial fel 'ac os taw ffor'na', a 'dyw' yn BOB MAN, 'torri staff' ac yn y blaen nes i fi chwydu. Argh.
Yn y bôn mae hwn yn wasanaeth am ddim. Mae o'n syniad sy'n ddim byd mwy na 'duw, ma 'na dipyn ohona ni'n siarad cymraeg. geith pawb cymraeg sgwennu ei stwff yn gymraeg a rown ni o ar wefan. piece of piss.' Dwi'm yn meddwl ei bod hi'n deg darllen mwy i mewn iddo fo.
Does 'na ddim pedant mwy na fi - alla i ddim darllen Golwg heb gicio rhywbeth, er enghraifft. A dyna ydi'r pwynt. Mae safon yr iaith ar dailypostcymraeg yn wael, ond iaith pobl gyffredin ydi hi - pobl sy wedi gweithio trwy gyfrwng y Saesneg drwy'u gyrfa tan hyn. Alla i ddim gweld y wefan hon fel rhan o'r Dirywiad Safon Mawr - sna neb yn ei chymryd hi fel gwefan efo iaith safonol. Mae hynny'n wahanol i Golwg achos mae Golwg yn sefydliad hollol Gymraeg, a phan mae gen ti un o'r rheini yn defnyddio iaith mor warthus mae gen ti drafferth.