Gwefan Cymraeg i'r daily Post!
http://www.dailypostcymraeg.co.uk
Cymedrolwr: Mr Gasyth
Rwyn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu fod y Daily Post yn lansio gwefan newydd sbon fydd yn cynnig gwasanaeth newyddion yn Gymraeg.
Mae'r wefan i'w chael ar http://www.dailypostcymraeg.co.uk ac fe ydd yn fyw dydd Mercher, Awst 27.
Bydd y wefan yn cynnwys straeno fel maent yn datblygu ar draws Gogledd Cymru. Fe fyddwn hefyd yn cario straeon o Gymru, Prydain a thu hwnt yn Gymraeg. Cewch hefyd ddarllen prif straeon chwaraeon y dydd yn Gymraeg ar y wefan.
Yn ogystal a’r newyddion a’r chwaraeon yn Gymraeg fe fydd fideos, cyfweliadau a geleriau lluniau ar y wefan newydd.
Bydd ein colofnwyr arlein yn cynnwys cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley.
Mae’r Daily Post yn cefnogi twf yr iaith Gymraeg. Rydym yn gobeithio gymeryd y cyfle i ddanfon eich straeon a'r newyddion i ni yn Gymraeg.
Os ydych yn hoffi beth rydych yn ei weld ar wefan dailypostcymraeg danfonwch neges o gefnogaeth i mi fel bod modd ei gynnwys ar y wefan.
Rydym ddim wedi derbyn grantiau ar gyfer datblygu'r wefan o gwbl. Ein nod yw sefydlu gwefan byrlymus a chyffrous ar gyfer y cannoedd o filoedd o fobl sy'n siared Cymraeg. Maer gynulleidfa'n ddigon mawr i ddenu hysbysebwyr fydd yn gwneud y wefan yn adnodd hunan-gynhaliol i'r rhai siared yr iaith Gymraeg ac yn barod i warchod ei datblygiad a'i bodolaethywun sy'n
Rwyn edrych ymlaen i glywed oddi wrthych.
Fy e-bost yw robirvine@dailypost.co.uk
Diolch am ddarllen hwn ac rwyn gobeithio y gwnewch fwynhau dailypostcymraeg.co.uk
Rob Irvine
Golygydd, Daily Post Wales &
Chyfarwyddwr Cyhoeddi, Trinity Mirror North Wales
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai