Gog y Cwm a ddywedodd:"Mae John Toshack, boss Cymru, wedi'i enwi James Collins... yn ei dîm Cwpan y Byd, er bod mae'r ddau heb 'di chwarae gem i West Ham y tymor yma"
Hen gwestiwn efallai - be sy well gennych, pobl yn deud "Rydw i'n heto teipo Welsh", "Roedd y lectric yn off am oriau" - neu pobl yn deud "I hate typing Welsh", "The electric was off for hours"? Am gyfieithu, beth am "Is John Toshack, boss of Wales, after his naming James Collins...in his team Cup of the World, though being are the two without after playing game for West Ham the season here". Mae'n wir fod y Gymraeg ychydig yn wael, ond Cymraeg ydy hi, dim gair-am-air cyfieithiad o'r Saesneg.