Troi Eglwysi Cymru yn dai haf ("Gwarth!" gynt)

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Troi Eglwysi Cymru yn dai haf ("Gwarth!" gynt)

Postiogan Norman » Iau 04 Medi 2008 9:13 pm

Be mae y bobl sydd yn erbyn datblygu'r adeiladau yma'n meddwl ddylia gael eu gwneud a nhw ? Mae'n gostys i'w cadw, ac yn gostys i godi adeiladau newydd [ megis meithrin ]. Dwi'm yn gweld y broblem, sna bo chi'n grefyddol ac yn gweld yr adeiladau fel rhywbeth uwch / mwy. Sa rhyw foi Cymraeg ei iaith yn eu prynnu sa'n iawn ?
Mae mwy na un dadl yma dwi'n ama.
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Re: Troi Eglwysi Cymru yn dai haf ("Gwarth!" gynt)

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 04 Medi 2008 9:30 pm

Manon a ddywedodd:Mae hyn yn digwydd yn aml yma ym Meirionnydd hefyd. Mae'n rheithor ni yn trio datblygu Eglwys y pentre i fod yn ganolfan gymunedol fel na fydd rhaid ei werthu os ddaw hi i hynny.


Hyn yn fodel da dwi'n meddwl Manon. Maen anheb fod yr Eglwysi yn gorfod cynnal hen adeiladau hynafol tra bod yr union beth yna yn sefyll yn ffordd eu cenhadaeth heddiw. Dylai'r gymuned yn ehangach gymryd gofal o'r hen adeiladau er mwyn rhyddhau yr eglwys i'w phriod waith sef son am Iesu Grist ac nid bod yn perpetual DIY mewn yn trio dal y to rhag gollwng.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Troi Eglwysi Cymru yn dai haf ("Gwarth!" gynt)

Postiogan sian » Gwe 05 Medi 2008 8:13 am

LLewMawr a ddywedodd:mae hyn yn warthus, esiample arall o 30 darn o arian ar gyfer bradychu cymunedau cymru.


Sweeping statement, braidd, os nad wyt ti'n gwybod yr amgylchiadau!
Ers faint roedd yr eglwys wedi cau?
Oedd y gynulleidfa wedi mynd yn fach iawn?
Ydi'r gynulleidfa mewn sefyllfa i gyrraedd eglwys neu gapel arall?
Yn aml, y bobl sydd ucha'u cloch pan fydd eglwys neu gapel yn cau yw'r aelodau oedd byth yn mynd yno pan oedd ar agor!
Beth oedd yr Eglwys yng Nghymru i fod i'w wneud â'r adeilad?
A oes canolfan gymuned yn yr ardal yn barod.
Os na, oedd 'na rywun yn fodlon cymryd cyfrifoldeb am redeg un?
Dw i ddim yma i amddiffyn yr Eglwys yng Nghymru ond dydi'r sefyllfa ddim mor syml.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Troi Eglwysi Cymru yn dai haf ("Gwarth!" gynt)

Postiogan celt86 » Llun 22 Medi 2008 3:19 pm

Mae dynes lleol wedi ysgrifennu erthygl yn y papur bro lleol. Mi roedd hi a bobl eraill wedi rhoi cais 'joint' i brynnu'r eglwys er mwyn sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros fel eglwys, ac i agor y drysau tuag ymwelyr, a fyddai'n cael gweld y gwaith coed arbennig a.y.y.b. OND, mi werthwyd i Sais dan eu trwynnau, ac hwnw efo 4 tai haf yn barod yn yr ardal! Mae o eisiau gwneud yn dy haf, a difa'r hen adeilad hanesyddol hyn. A beth sydd yn waeth, mae'r swm o arian a dalwyd am yr eglwys dim ond yn £**,***. Ia, swm 5 ffigwr, ymhell o dan £100,000. Am y pris yna, ni ddylai'r eglwys cael ei droi yn dy. Mi allai'r boi hyn gwerthu'r 'ty haf' wedyn ymhell dros £400,000+. Y sais wedi elwa, ac wedi trechu'r bobl leol. Allai weld o nawr, 'PRIVATE' yn bobman, ac dwin siwr mi neith o neud wbath i'r mynwant hefyd, er bod o ddim efo hawl dros hwnw.

FOR SALE: WALES
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Troi Eglwysi Cymru yn dai haf ("Gwarth!" gynt)

Postiogan LLewMawr » Llun 22 Medi 2008 9:03 pm

yn gwmws^^^

pa bynnag ffordd chi'n trio troellu'r newyddion- esiampl arall o mewnfudwyr yn cymryd dros cymunedau cymru. a ydy'n nhw'n fantais i'r ardal leol?

tro ar ôl tro mae bobl yn dod mewn i gymunedau cymraeg a mae'r mwyafrif ohonynt yn wneud braidd ddim i dysgu'r iaith. ychydig o flynyddoedd lawr y llinell, mae'r pentref yn llawn mewnfudwyr a'r iaith gymraeg wedi encilio o ardal arall yng nghymru!
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Troi Eglwysi Cymru yn dai haf ("Gwarth!" gynt)

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 04 Hyd 2008 1:08 am

Mi roedd hi a bobl eraill wedi rhoi cais 'joint' i brynnu'r eglwys

Wel dyna'r ateb syml, ond os ydy o'n ffaelu wedi'r gwbl allech chi geisio y ffordd "Canadaidd" biwrocratig:

Ddigwyddodd rhywbeth tebyg i hen siop lleol agos i le dwi'n byw (jest i'r cofnod: Sam the Record Man). Odd o ar werth ar ôl iddo fo gwympo diolch i gystadleuaeth Americanaidd enfawr yn yr ardal. Yn ffodus wnaeth digon o bobl swn am ei ddymchweliad, a ddaeth y llywodraeth i mewn i'i gadw (o leia', yr adeilad, dim y cwmni ei-hun) dan y rheswm taw "heritage site" oedd o. O'r diwedd cafodd o'i brynu gan y sector preifat Canadaidd, rhyw prifysgol leol.

Yn termau syml, oes 'na ffordd swyddogol o'i galw yn "safle hanesiol", ar lefel y llywodraeth leol? Mae'r esgud 'na yn gallu helpu llawer os oes angen cadw adeilad.

Yn aml, y bobl sydd ucha'u cloch pan fydd eglwys neu gapel yn cau yw'r aelodau oedd byth yn mynd yno pan oedd ar agor!

Ia. Yn y dyfodol, i ddal eglwysi yn agor, mynd iddynt ydy syniad da weithiau. Jest fel hen Sam the Record Man, roedd pobl yn cwyno am ei gau o, ond roedden nhw'n eitha' hapus i fynd i HMV cyn iddo fo gau. 8)

tro ar ôl tro mae bobl yn dod mewn i gymunedau cymraeg a mae'r mwyafrif ohonynt yn wneud braidd ddim i dysgu'r iaith.

Os ti eisiau teimlo'n well, yn Nhoronto mae bron neb yn ceisio dysgu'r iaith yn rhai ardaloedd, mae na cymunedau lle mae'r rhan fwyaf yn deall dim mwy nag un neu dau gair o Saesneg. Ddwedwn i nad ydy 5% o'r boblogaeth yn siarad digon o Saesneg i ddal hyd yn oed trafod syml, a na gallai tua 10-15% yn ei siarad hi heb gwallau enfawr. Ac yma dan ni'n siarad am ardal lle mae 'na dim on UN iaith swyddogol, ac iaith uffernol o bwerus a phoblogaidd hefyd!
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Troi Eglwysi Cymru yn dai haf ("Gwerth!" gynt)

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 04 Hyd 2008 10:18 pm

Yn hollol off-pwnc, ond pa ieithoedd maen nhw'n eu siarad yn Nhoronno onid Saesneg Canada? Ydyn nhw i gyd yn ex-pats Quebecois? Neu Iancis hispanic? Neu gynfrodorion Americanaidd? "O na, dan ni ddim yn siarad Saesneg yma - dan ni i gyd yn siarad Inuit", neu beth bynnag. Neu efallai dyna gartref pobl Alba Newydd erbyn hyn ac maen nhw'n siarad Gaeleg. Neu efallai fod na lot o bobl fyddar yno ac maen nhw'n defnyddio iaith arwydd.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Troi Eglwysi Cymru yn dai haf ("Gwarth!" gynt)

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Llun 06 Hyd 2008 9:40 am

Yn ol gwefan Parc Eryri, yr unig gais am gynllunio yn ymwneud ag eglwys ers Gorffernnaf 2006 (pan roddwyd hawl i newid eglwys yn dy) ydi cais o Dachwedd 2007 yn ymwneud a chyngor egwlys y plwyf yn gofyn am ganiatad i newid defnydd un o'u neuaddau. Fedra i ddim dod o hyd i unrhyw ganiatad a arall yn y ddwy flynedd a hanner diwetha.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Troi Eglwysi Cymru yn dai haf ("Gwarth!" gynt)

Postiogan celt86 » Gwe 10 Hyd 2008 9:05 am

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Yn ol gwefan Parc Eryri, yr unig gais am gynllunio yn ymwneud ag eglwys ers Gorffernnaf 2006 (pan roddwyd hawl i newid eglwys yn dy) ydi cais o Dachwedd 2007 yn ymwneud a chyngor egwlys y plwyf yn gofyn am ganiatad i newid defnydd un o'u neuaddau. Fedra i ddim dod o hyd i unrhyw ganiatad a arall yn y ddwy flynedd a hanner diwetha.


Nid ydi'n wedi 'updatio'r' wefan felly. Dwin byw wrth yr eglwys, does dim rhaid i unrhyw wefan dweud wrthaf i beth sydd yn mynd ymlaen. Mae'r boi wedi palu ffordd newydd yn barod. Pwy ddiawl sydd ishio aros mewn ty sydd yn ganol mynwant a cyrff di trigo!? :?

"Better not plant those geraniums there dear!"
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Troi Eglwysi Cymru yn dai haf ("Gwarth!" gynt)

Postiogan celt86 » Gwe 17 Hyd 2008 4:22 pm

Erthygyl GWYCH yn y Golwg diweddaraf am dan yr eglwys hyn...
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron