Mi wnai ddim enwi yr Eglwys dan sylw na rhoi unrhyw fanylion a fyddai'n datgelu'r eglwys.
Eglwys hen a hanesyddol; Addoldy o ryw fath wedi bod ar y safle am ganrifoedd a chanrifoedd. Eglwys Gymreig ei natur ac yn eitha unigryw. Mynwant sydd yn dal i gael ei ddefnyddio o'i gwmpas.
GWARTH: Eglwys wedi mynd ar werth (Mi wnai ddim datgelu'r pris ond yn weddol rhad). Cadw yn dweud na ddylai'r Eglwys cael ei droi mewn i dy. Sais wedi ei brynu oddi ar yr Eglwys yng Nghymru ac wedi cael caniatad i troi'r eglwys mewn i dy. Sais yn brolio bod o'n cael ty mewn ardal mor hardd. NEB lleol wedi cael gwybod am y gwerthiant hyn a bod o wedi cael caniatad i troi yr eglwys mewn i dy!
Esiampl arall o Sais yn cael ffordd ei hun unwiath eto...