Cymedrolwr: Mr Gasyth
Madrwyddygryf a ddywedodd:onni meddwl bod o'n doniol iawn. Er mae defnyddio y darn yna o 'Downfall' wedi dod yn cliche erbyn hyn.
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Etiha doniol, yn arbennig yr un Brown prologue, ond oes na ddim blas eitha cas yn y geg o wneud cymhariaethau mor ysgafn efo Hitler?
Lorn a ddywedodd:....ond ai dim ond fi oedd yn gweld "who can hardly string an English sentence together" and Dafydd Iwan ac Elfyn Llwyd m'bach yn off? I fi oedd o'n canu clychau o Nat Watch a David Taylor nid am rhyw Genedlaetholwyr pissed off.
Cacwn a ddywedodd:Nefi wen, oes ots pwy a pham nath y fideo? Dio ddim yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth i boblogrwydd unrhyw blaid wleidyddol yn diwadd. Pam fod rhaid i bobl or-ddadansoddi pob dim - ac wedyn dod i'r canlyniad ein bod ni'n cael cam pob un tro. Does na neb sy'n meddwl mai m'bach o hwyl yn unig di'r fideo ma - ta di hynny'n rhy syml?! Ond, efallai eich bod chi gyd ar y trywydd iawn, ac mae'r byd i gyd yn cael ei lywodraethu gan fadfallod di-Gymreig. Grasusa.
7ennyn a ddywedodd:Ma hi ots! Os ydi'r fideo yma wedi cael ei phostio gan rywyn o Llais Gwynedd, fel dwi'n ama, yna mae hi ychydig bach yn fwy sinistr na mymryn o hwyl.
Beth bynnag, mae'r ail ran ar gael rwan, ac mae hi'r un mor hilariws ( ) a'r gynta.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 33 gwestai