Dolen "doniol a difyr" - Fideo Plaid Cymru

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Dolen ddoniol a difyr

Postiogan 7ennyn » Maw 16 Medi 2008 8:44 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:
7ennyn a ddywedodd:Ma hi ots! Os ydi'r fideo yma wedi cael ei phostio gan rywyn o Llais Gwynedd, fel dwi'n ama, yna mae hi ychydig bach yn fwy sinistr na mymryn o hwyl.

Beth bynnag, mae'r ail ran ar gael rwan, ac mae hi'r un mor hilariws ( :rolio: ) a'r gynta.


Felly, o be ti'n ddweud, nad oes neb hawl i gwneud hwyl ar ben Plaid Cymru?

Diawl o ots genai am Blaid Cymru - un o fy mhleserau pennaf ydi weindio eu cefnogwyr i fyny. Dim o gwbwl o'i le hefo ychydig o hwyl, ond mae lledaenu celwyddau ac ensyniadau enllibus yn erbyn yr unigolion a enwir yn croesi'r lein. Ac fel etholwr dwi angen cael gwybod nad aelodau Llais Gwynedd sydd y tu ol i'r fideos.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Dolen ddoniol a difyr

Postiogan løvgreen » Mer 17 Medi 2008 11:07 am

løvgreen a ddywedodd:Mae'n bendant yn edrych fel gwaith NatWatch neu rywun ag agenda gwrth-Gymraeg.

GT a ddywedodd:Byddwn yn tybio mai o gyfeiriad Llafur, gwrth Gymreig tebyg i Natwatch y daw'r fideo.

GT a ddywedodd:'Dwi'n tueddu i anghytuno efo lovgreen yma.

Nagwyt, paid a poeni! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Re: Dolen ddoniol a difyr

Postiogan GT » Mer 17 Medi 2008 9:13 pm

løvgreen a ddywedodd:
løvgreen a ddywedodd:Mae'n bendant yn edrych fel gwaith NatWatch neu rywun ag agenda gwrth-Gymraeg.

GT a ddywedodd:Byddwn yn tybio mai o gyfeiriad Llafur, gwrth Gymreig tebyg i Natwatch y daw'r fideo.

GT a ddywedodd:'Dwi'n tueddu i anghytuno efo lovgreen yma.

Nagwyt, paid a poeni! :winc:


A finnau'n meddwl dy fod yn fy adnabod yn ddigon da i wybod fy mod yn golygu 'cytuno' pan dwi'n dweud 'anghytuno', ac 'anghytuno' pan dwi'n dweud 'cytuno'. :winc:
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Dolen "doniol a difyr" - Fideo Plaid Cymru

Postiogan Cwlcymro » Maw 30 Medi 2008 3:47 pm

34 eiliad i fewn:

"We have lost large numbers to Llais y Bobol"

Allaim gweld Llais Gwynedd yn anghofio ei bod nhw wedi newid ei enw fisoedd ar fisoedd yn ol!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Dolen "doniol a difyr" - Fideo Plaid Cymru

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 30 Medi 2008 6:22 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Allaim gweld Llais Gwynedd yn anghofio ei bod nhw wedi newid ei enw fisoedd ar fisoedd yn ol!


Ti'n over-estimatio braidd, dwi'n amau!!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron