Fforwm IcWales

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Fforwm IcWales

Postiogan celt86 » Gwe 19 Medi 2008 2:22 pm

Cymrwch gip olwg ar rhai o edefynau yn y fforwm hyn. Mae nifer sylweddol or defnyddwyr yn hollol wrth-Gymraeg, ac yn postio pethau hyrt e.e. Cael gwared o enwau llefydd Cymraeg, Stopio dysgu Cymraeg yn ysgolion ac hyd yn oed, yn ol un boi, troi De Cymru yn rhan o Loegr!

http://forums.icwales.co.uk/index.php
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Fforwm IcWales

Postiogan Kez » Gwe 19 Medi 2008 7:53 pm

Paid di a phoeni biti arsehoes fel 'na - os man nhw'n meddwl fel 'na ; fel 'na y bydda nhw'n meddwl byth.

Ma bywyd yn rhy fyr i boeni amdanyn nhw ac byswn i'n meddwl - heb feddwl dwywaith - bod pob un ohonyn yn salw y diawl a diffyg ffrindiau a sielffo sy'n rhyw hanner egluro eu twpdra
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Fforwm IcWales

Postiogan Pryderi » Sad 20 Medi 2008 9:00 pm

Dwi wedi cael digon o agweddau gwrth-Gymraeg ar ol dilyn negysfyrddau'r BBC llynedd. Mae rhai o'r aelodau yno'n trin gelyniaeth i'r Gymraeg fel obsesiwn.
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Re: Fforwm IcWales

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 20 Medi 2008 9:19 pm

Wel, ceisiais i forums[dot]icwales[dot]co[dot]uk/index[dot]php, a ches i ryw sgrin yn deud "log in or register", efo enw'r wefan yn "walesonline". Dim byd yn deud beth oedd o, dim cyfle i gael golwg ar y ffora cyn gofrestru, felly wnes i ddim. Fel dywedodd Kez, dim gwerth becso dam amdanyn nhw. Gwefan gyfrinachol, gwefan ychafiaidd. A rhag ofn i neb o'r fan honno'n edrych ar hyn,

a secretive web site that does not introduce itself or allow unlogged in viewing is not worth the cyberspace it's written in

(neu rywbeth fel 'na - gobeithio fod hynny'n ddigon dealladwy). Gyda hand, pwy ydy "icwales" neu "walesonline"? Er enghraifft, rhywbeth yn gysylltiedig a phapurau newyddion (fel y wefan http://www.fifeonline.co.uk, sy'n cynnwys St. Andrew's Citizen, East Fife Mail, Glenrothes Gazette, Fife Herald a Fife Free Press).
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Fforwm IcWales

Postiogan ceribethlem » Sad 20 Medi 2008 10:11 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Wel, ceisiais i forums[dot]icwales[dot]co[dot]uk/index[dot]php, a ches i ryw sgrin yn deud "log in or register", efo enw'r wefan yn "walesonline". Dim byd yn deud beth oedd o, dim cyfle i gael golwg ar y ffora cyn gofrestru, felly wnes i ddim. Fel dywedodd Kez, dim gwerth becso dam amdanyn nhw. Gwefan gyfrinachol, gwefan ychafiaidd.

Nagwyt ti gallu sgrowlio lawr i gael pip ar bethau sydd wedi eu hysgrifennu? Fi ddim yn aelod, nac erioed wedi cyfrannu, ces i bip am yr unig dro wrth weld y linc uchod, ac oedd hi'n ymddangos bod posib darllen cyfraniadau pobl. Es i'n bored o fewn chwarter eiliad, felly ddarllenes i ddim o werth.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Fforwm IcWales

Postiogan sian » Sul 21 Medi 2008 3:23 pm

Mae i'w weld yn olreit nawr - dw i'n gallu darllen trafodaethau heb fewngofnodi. Digon diflas ar y cyfan.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Fforwm IcWales

Postiogan Dylan » Sul 21 Medi 2008 7:06 pm

dw i'n aelod yno ond mae'r lle'n erchyll. Does dim modd cael trafodaethau call yno. Dychmygwch negesfwrdd llawn rooneys.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Fforwm IcWales

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 21 Medi 2008 10:30 pm

Ia mae'r lle yn eithaf doniol. Mae hwn yn adlewyrchu fy agwedd tuag at fforwm IC Wales.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Fforwm IcWales

Postiogan celt86 » Llun 22 Medi 2008 2:50 pm

Dylan a ddywedodd:dw i'n aelod yno ond mae'r lle'n erchyll. Does dim modd cael trafodaethau call yno. Dychmygwch negesfwrdd llawn rooneys.


Dwi wedi gadael am byth!!!!!!!!! Diawl lle. Pob lwc i ti yno.Ti angen o yn erbyn pobl fel 'Cymro o'r Dwyrain' a'i griw. Dallt pwy dwi'n feddwl? :lol:

Mae modd cael trafodaeth call ar mae-e :D
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Fforwm IcWales

Postiogan LLewMawr » Llun 22 Medi 2008 8:56 pm

bydde chi wastad yn dod ardraws pobl gwrth-gymraeg beth bynnag yw'r rheswm y ffaith yw ei bod nhw yn ofni rhywbeth nad yw'n deall.

ym mhenybont ar ogwr mae yna hen ddyn (hanner-saes hanner cymro) a symudodd o Loegr I Lanidloes pan oedd yn fachgen. ni wnaeth o ddysgu cymraeg a cwynodd am gael ei fwlio a'i alltudio gan y siaradwyr cymraeg. person rhyfedd yw e- egsentrig iawn. ta waith- aeth ar rant fawr am y iaith pan o'n i yn siarad 'da fe. 'some people think that everyone in Wales should speak Welsh!' (dyna syniad twp ondefe?). wrth gwrs yn ddiweddar mae ysgol gymraeg newydd 'di agor yn sir Penybont. a gesso beth oedd yn y bapur leol?

llythr amdan ysgol newydd yn arwain at 'racism' yn erbyn y di-gymraeg. ysgrifennodd yn hir amdan ei brofiad a dweud eu bod wedi cwrdd a lot o 'nasty welsh-speakers' ac am ryw rheswm esboniodd ei fod wedi gwario amser yng Gwlad y Iâ ac ar ôl rai flynyddoedd dysgodd iaith gwlad y ia. (Icelandic) so mae'n iawn i dysgu iaith un gwlad on casau iaith gwlad arall.

llythr twp ydoedd- ond dyna sut mae rhai bobl yn feddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron