Pryderi a ddywedodd:2. Gwahardd cluster bombs yn fyd-eang
Ti'n uffernol o bwerus! Sgin i ddim mynadd dechrau edefyn yn adran 'Materion y Byd'. Joban i rywun arall.
Pump arall:
Llyfrgelloedd distaw. Dim lol. Dim malu cachu. Dim esgusodion. Rhyddhau pres i roi yr holl gyfrifiaduron mewn ystafell arwahan. Seinglosio'r ystafelloedd. Sac yn syth bin i rai staff sy'n janglo ymysg eu gilydd ac yn creu swn di-angen (wedi gwneud cwyn swyddogol mewn llyfrgell yn Lloegr unwaith!) Plismyn Cymunedol yn galw heibio rhai llyfrgelloedd bob hyn a hyn. 3 chynnig i Gymro- ac yna cael eich banio am 5 mlynedd os ydych yn euog o gadw reiat a chreu swn. Datblygu technoleg fel ei bod hi'n amhosibl defnyddio blincin ffonau symudol yno. Ty tafarn ydi ty tafarn. Clwb ieuenctid ydi clwb ieuenctid. Tydi hyn ddim yn gymhleth!
Bwyd iach ac organig yn ein hysgolion- gan gynnwys brecwast. Duwcs, mesurau mwy pellgyrhaeddol- gwahardd bwyd sothach mewn archfarchnadoedd.
Mmmm... pob tro y bydd rhywun yn prynu crys rygbi neu bel-droed Cymru yna bydd e.e. 10% o'r pris yn mynd tuag at gael papur newydd cenedlaethol (7 diwrnod yr wythnos!) Cymraeg.
Hymns and arias and newspapers. Gorau chwarae cyd-chwarae- ac adroddiadau difyr am y gem y noson cynt ar y dudalen gefnCwrw go iawn. Dim rybish poblogaidd sy'n cael ei farchnata mor bwerus y dwthwn hwn.
Wedi cael llond bol ar ffyliaid sy'n gyrru ar hyd lonydd cefn gwlad Cymru ac yn gollwng a rhoi llich i e.e. 'bocsys bwyd' Maci-dis. Duwcs, CCTV neu rhyw fesur sy'n dal y troseddwyr ac yna uffar o ddirwy? Mae'n hollol warthus fod e.e. llwyth o sbwriel yn cael ei luchio ar lonydd cefn gwlad e.e. Eryri. Embaras cenedlaethol.