Chi yw Prif Weinidog newydd Cymru (neu Brydain- cewch ddewis). Mae gennych lwyth o rym. Gallwch glicio eich bysedd a bydd deddfau newydd yn cael eu pasio dros nos. Gallwch hyd yn oed gyflawni anbell i wyrth. Pa 5 peth cyntaf y byddech yn ei wneud?
Papur dyddiol Cymraeg
Gwneud ysgolion bonedd yn anghyfreithlon. Gwleidyddion Cymreig a Phrydeinig sy'n mynd ar ben eu ceffyl ynglyn a thegwch cymdeithasol, ond sy'n gyrru eu plant eu hunain i ysgolion bonedd= ffycin twats!
Dim mwy o lonydd yng Nghymru (oni bai fod yna reswm wirioneddol bwysig e.e. ysbyty newydd). A chael gwared ar ambell i lon. Ia, pam lai? Codi'r tarmac i fyny a gadael i wair a natur gymryd drosodd.
Mesurau yn lleihau y diwylliant/arfer siopa, siopa a mwy o siopa. Mae cymdeithas mor ddiflas a di-ddychymyg weithiau.
Rhoi pres i dim o arbenigwyr technolegol allu datblygu system sy'n gwneud hi'n amhosibl mynd ar gyflymder uwch na 70 milltir yr awr ar ein lonydd. Hefyd bydd hi'n amhosibl i gar fynd yn gyflymach na 30 milltir yr awr drwy bentref. Hefyd wrth i rywun eistedd yn y set yrru bydd rhyw declyn yn y car yn gallu dweud yn syth bin os yw gyrrwr o dan ddylanwad y ddiod feddwol neu gyffuriau. Bydd hi'n amhosibl tanio'r car wedyn... Dylai unrhyw un sy'n gwrthwynebu hyn ar sail "rydym yn byw mewn gwlad rydd" gau eu ffwcin cegau.