Ie dros Gymru - Grwp aml-bleidiol 'Cymru Gyntaf'

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ie dros Gymru - Grwp aml-bleidiol 'Cymru Gyntaf'

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 11 Hyd 2008 5:16 pm

Mae Jim Dunckley a finnau wedi cychwyn ymgyrch ar Facebook i ofyn am gefnogaeth i'r alwad am refferendwm ac i annog pleidlais IE yn yr ymgyrch.

Mae Cymru Gyntaf / Wales First yn grŵp allbleidiol sydd yn galw am bleidlais "IE" yn y refferendwm arfaethedig ar hawliau deddfu llawn i Gynulliad Cymru.
Ein bwriad yw defnyddio'r we i godi cefnogaeth boblogaidd dros Senedd i Gymru.
Mynnwn fod ein corff etholedig democrataidd cenedlaethol yn cael y grym i roi Cymru GYNTAF


Gan fod ymgyrch Na eisoes yn bodoli ac yn cael cyhoeddusrwydd eang er gwaetha'r ffaith nad oes ganddi ond hanner dwsin o aelodau, mae'n hanfodol bod ymgyrch Ie gref yn bodoli i'w gwrthwynebu.

Mae rhai o gefnogwyr datganoli yn gwangalonni ac yn amau os oes modd ennill ymgyrch refferendwm. Maent am ohirio ehangu grymoedd y Cynulliad dan boeni bydd refferendwm yn cael ei golli. Mae'n bwysig cael ymgyrch ar lawr gwlad i ddangos i'r gwangalon bod yna gefnogaeth a brwdfrydedd dros achos Ie.

Fe ddywedodd John Dixon cadeirydd y Blaid ychydig yn ôl bod yna beryglon yn perthyn i'r strategaeth wleidyddol swyddogol o ddisgwyl am gefnogaeth i gynyddu cyn dechrau ymgyrchu
a risk that we wait until the polls show that the argument has been clearly won before we start to present the case; and I don't understand how anyone would ever expect to decisively win any argument without putting the case

Os ydych yn gefnogol i'r achos Ie mewn refferendwm ymunwch a'r grŵp ar facebook, gofynnwch i'ch cyfeillion i ymuno a dwedwch air bach o blaid yr ymgyrch ar eich lle ar y we, lle gwaith, tafarn lleol ac ati os gwelwch yn dda.

http://www.facebook.com/group.php?gid=40044911971
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai