Ta Ta Martin

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ta Ta Martin

Postiogan Cwlcymro » Sul 12 Hyd 2008 6:48 pm

Martin Eaglestone wedi tynnu ei enw nol fel darpar ymgeisydd Llafur ar gyfer yr etholiad cyffredin nesa:

As the years roll by we might expect to start expecting the unexpected. In my case there have been a number of changes in my personal life that have lead me to review commitments. As a result I submitted my resignation as Prospective Parliamentary Candidate for Arfon on Friday


Ddim yn siwr os ydi hyn yn beth da ta drwg i Hywel Williams a Plaid Cymru. Doedd Martin byth am enill ddim byd, felly'r cwestiwn ydi pam fod o'n sefyll lawr. Ai materion personal ydio ta ydi'r Blaid Llafur wedi ffendio rhywun cryfach na fo sy'n barod i sefyll, rhywun efo siawns i "gadw" y sedd (ar ol y newidi o Caernarfon i Arfon Llafur sydd "berchen" y sedd er mae Hywel Williams ydi'r AS.)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Ta Ta Martin

Postiogan Deiniol » Sul 12 Hyd 2008 8:12 pm

Efallai ei fod o'n rhagweld Llafur yn cael amser caled yn yr Etholiad Cyffredinol a ddim awydd gwynebu pobl ar y staepan drws i drafod hynny? Beth bynnag ydi'r rheswm mae gan y Blaid Lafur yn y gogledd dipyn o wiath rwan i ddarganfod ymgeisydd yng Nghonwy ac Arfon. Bob parch i Eaglestone ond dwi'n meddwl mai'r rheswm ei fod o wedi bod yn ymgeisydd gymaint o weithiau ydi achos fod Llafur yn cael trafferth cael unrhyw un arall i sefyll yn Arfon.
Deiniol
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 48
Ymunwyd: Mer 02 Ebr 2008 10:34 am

Re: Ta Ta Martin

Postiogan Cwlcymro » Mer 15 Hyd 2008 8:47 pm

Rhesymau personol oedd y rheswm drost dynnu nol, dim esgus ydi hunna yn ol y son, sy'n golygu nad oes gan Lafur neb mawr i sefyll yn ei le.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Ta Ta Martin

Postiogan Cymro13 » Iau 16 Hyd 2008 8:38 am

Wel, gyda Martin neu beiio byddai Hywel Williams wedi cadw ei sedd ta beth
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Ta Ta Martin

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 16 Hyd 2008 9:51 am

Cwlcymro a ddywedodd:Rhesymau personol oedd y rheswm drost dynnu nol, dim esgus ydi hunna yn ol y son, sy'n golygu nad oes gan Lafur neb mawr i sefyll yn ei le.


Mae 'na rywun amlwg iawn sydd newydd ymddeol a fyddai'n ffansio'i chyfle ... a phwy fyddai am aberthu eu hunain yn Aberconwy pan fo sedd ennilladwy drws nesaf?

Ddim yn siwr os ddigwyddith hynny, ond ergyd i Blaid Cymru ydi colli Martin, nid i'r Blaid Lafur. Gan ddweud hynny, heblaw os byddai'r uchod yn rhoi cynnig arni, mae'n anodd rhagweld Llafur yn ennill Arfon y dyddiau hyn gydag unrhyw un.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Ta Ta Martin

Postiogan Cwlcymro » Iau 16 Hyd 2008 2:08 pm

Mi neshi feddwl am Betty Bach hefyd Horach, mi nesi feddwl i ddechra ella ma dyna pam odd Martin wedi ymddiswyddo, i wneudlle i Betty. Deallt rwan beth bynnag fod Martin yn deud y gwir mai newid yn ei sefyllfa bersonol oedd y rheswm a fod na ddim pwysa gan y Blaid Lafur i wneud lle i enw mwy.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Ta Ta Martin

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 16 Hyd 2008 2:26 pm

Na, na dwi ddim yn amau ei gymhellion personol, ond dweud ydw i dwi'n siwr y byddai Betty wrth ei bodd yn rhoi cynnig ar Arfon - wedi'r cyfan, dyma'i thiriogaeth naturiol hi, ac dwi'n amau dim ei bod hi'n gwybod cystal â neb mai hi ydi'r un i ennill Arfon i Lafur. Fetia i rywbeth y bydd hi'n ystyried y peth, ac y bydd Llafur Arfon hefyd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Ta Ta Martin

Postiogan Lorn » Iau 23 Hyd 2008 6:57 pm

Glywais i rhyw flwyddyn yn nol os nad mwy bod bosus Eaglestone gyda Chyngor Ynys Môn wedi dweud wrtho bydd rhaid iddo ystyried yn ofalus dewis rhwng ei dyheadau gwleidyddol neu ei yrfa bresennol fel Swyddog Cynllunio.

Trist iawn feri sad :winc:
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Ta Ta Martin

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 23 Hyd 2008 8:55 pm

Pam trist? Mae'n ffaith o fywyd. Rhaid i bob swyddog sy'n gweithio dros lywodraeth fod heb ochr wleidyddol yn eu gwaith. Allan o'u gwaith, mae'n iawn - i raddau. Felly, petai Nerys Prosesydd Geiriau eisiau sefyll dros blaid mewn etholiad, fawr ots, dydy hi ddim yn enwog fel swyddog llywodraethol. Ond petai Branwen Prif Swyddog Cynllunio eisiau hynny, mae na broblem, oherwydd bydd lot o bobl yn ei chydnabod fel swyddog cyngor. Digwyddodd hynny i'm tad i unwaith - gwas suful oedd o ac eisiau sefyll mewn etholiad, dywedodd ei fos na - oni bai iddo sefyll fel Annibynnol. Ces innau swydd unwaith lle ches i ddim sefyll fel cynghorydd. Mae'n digwydd, mae'n fater o chwarae teg. Tisho cael prifathro, yn dal yn brifathro, ac hefyd ar y cyngor fel pennaeth addysg dros ei ysgol? Neu brif swyddog rhyw gyngor yn eistedd ar y cyngor fel cynghorydd hefyd? Mae na conflict of interests.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Ta Ta Martin

Postiogan Lorn » Gwe 24 Hyd 2008 9:41 am

Ti di methu'r pwynt Sioni, bod yn sarcastig oeddwn i - gwelwr :winc: . Does gen i ddim amser i'r hen Martyn felly gwynt teg ar ei ol o yn fy marn i.

Ac o ran gweddill dy sylwadau, does gen i ddim problem gyda swyddi'n gosod cyfyngiadau gwleidyddol ond nid oedd swydd Martyn Eaglestone yn ei wahardd - dyna pam ei fod wedi sefyll gymaint a does dim cyfyngiad ar athrawon na prif athrawon. Dwi'n nabod llwyth o athrawon sy'n Gynghorwyr neu'n sefyll mewn etholiadau. Mae ymgeisydd y Blaid Lafur yn is Etholiad Glenrothes yn athro.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 38 gwestai