Caernarfon-"Dre" i ba bentrefi yn union?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Caernarfon-"Dre" i ba bentrefi yn union?

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Llun 20 Hyd 2008 5:02 pm

Teithio o amgylch Pen Llyn unwaith, a dyma fi'n clywed rhywun yn gofyn i rywun arall: "Lle ti'n mynd? I Dre? " Y Dre yma oedd Pwllheli. A hoffai rywun gynnig rhetsr sy'n ateb cwestiwn teitl yr edefyn yma?
Holl bentrefi Arfon yn unig? A ydyw mor syml a hyn??
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Caernarfon-"Dre" i ba bentrefi yn union?

Postiogan sian » Llun 20 Hyd 2008 5:28 pm

Pwllheli yw "dre" Trefor - yn y canol - tua 9 milltir o Bwllheli a 13 o Gaernarfon.
Dw i newydd holi rhywun o Gyrn Goch - y pentre nesa - tua thair milltir i lawr y lôn - a Caernarfon yw eu tre nhw.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Caernarfon-"Dre" i ba bentrefi yn union?

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 20 Hyd 2008 5:51 pm

Dre ydi Caernarfon yn Nyffryn Ogwen i mi a ffrindiau, ond mae'r rhai ifancach (mae hynny'n swnio'n ofnadwy oed fi) yn defnyddio Dre i gyfeirio at Fangor erbyn hyn.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Caernarfon-"Dre" i ba bentrefi yn union?

Postiogan Macsen » Llun 20 Hyd 2008 7:22 pm

Waunfawr, Caeathro, Llanrug, Bontnewydd, Rhosgadfan, Llanwnda, Groeslon, Penygroes, Llandwrog.

Di Bangor ddim yn 'dre', man ddinas. :P
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Caernarfon-"Dre" i ba bentrefi yn union?

Postiogan sian » Llun 20 Hyd 2008 9:11 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dre ydi Caernarfon yn Nyffryn Ogwen i mi a ffrindiau


Ydi hynna'n rhyfedd o styried bod Bangor yn fwy ac yn nes a bod mwy o fysus yn mynd i Fangor?

Mae'n debyg bod pobl o lefydd fel Brynsiencyn ar Ynys Môn yn arfer cyfri Caernarfon yn "dre" hefyd am ei bod hi'n haws i ffermwyr ddod ag anifeiliaid i'r farchnad ar draws y Fenai na mynd i Langefni. Roedd pobl o'r ardaloedd hynny'n bancio yng Nghaernarfon tan yn gymharol ddiweddar, medden nhw.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Caernarfon-"Dre" i ba bentrefi yn union?

Postiogan GT » Llun 20 Hyd 2008 10:38 pm

Macsen a ddywedodd:Waunfawr, Caeathro, Llanrug, Bontnewydd, Rhosgadfan, Llanwnda, Groeslon, Penygroes, Llandwrog.

Di Bangor ddim yn 'dre', man ddinas. :P


Hefyd Deiniolen, Llanber, Dinorwig, Clwt y Bont, Brynrefail, Cwm y Glo, Penisarwaun, Rhostryfan, Ffrwd Cae Du, Felin, Bethesda Bach, Talysarn, Llanllyfni, Nebo, Rhos, Carmel, Bethel, Llanddeiniolen, Nant Peris, Llanfaglan, Clynnog ac yn rhyfedd iawn Brynseincyn (fel mae Sian yn ei ddweud) - ers dyddiau'r fferi.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Caernarfon-"Dre" i ba bentrefi yn union?

Postiogan Manon » Maw 21 Hyd 2008 8:23 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dre ydi Caernarfon yn Nyffryn Ogwen i mi a ffrindiau, ond mae'r rhai ifancach (mae hynny'n swnio'n ofnadwy oed fi) yn defnyddio Dre i gyfeirio at Fangor erbyn hyn.


Dre 'dwi a'm cyfeillion o Ddyffryn Ogwen yn galw Caernarfon, ond i Fangor 'da ni'n mynd i siopa ayyb. Am ryw reswm, gair Cnafron ydi dre, er nad ydan ni'n mynd yno mor aml a hynny.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Caernarfon-"Dre" i ba bentrefi yn union?

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 23 Hyd 2008 3:53 pm

Diolch yn fawr am yr ymatebion hyd yn hyn. Mmmm...gellir ychwanegu Fachwen am wn i. Be am Mynydd Llandygai?
Y sylw am Frynsiencyn yn ddiddorol iawn.
Be am bobl Garndolbenmaen? Ai Porthmadog (Port) yw "Dre" iddyn nhw? Be am bobl Pantglas?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Caernarfon-"Dre" i ba bentrefi yn union?

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 23 Hyd 2008 6:42 pm

sian a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dre ydi Caernarfon yn Nyffryn Ogwen i mi a ffrindiau


Ydi hynna'n rhyfedd o styried bod Bangor yn fwy ac yn nes a bod mwy o fysus yn mynd i Fangor?


Ydi bosib, ond fela mai. Fel ddywedodd Manon "Dre" ydi Caernarfon i bobl Dyffryn Ogwen, er y byddai pobl y ffordd yma'n dueddol o fynd i siopa i Fangor yn hytrach na Chaernarfon, ond "mynd i Fangor" fyddan nhw, ddim "mynd i dre". Dim ond rhywbeth diweddar iawn ydi i bobl ddechrau cyfeirio at Fangor fel 'Dre'.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Caernarfon-"Dre" i ba bentrefi yn union?

Postiogan Kez » Llun 27 Hyd 2008 8:21 pm

Macsen a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:... er y byddai pobl y ffordd yma'n dueddol o fynd i siopa i Fangor yn hytrach na Chaernarfon...

Wel mae pobol Caernarfon yn dueddol o fynd i siopa i Fangor yn hytrach na Chaernarfon. Mae'n help cael siopa.


O'm profiad inna, bysa pobol yr ardal yn mynd i Gaer i siopliffto, dod nol i Fangor am chips a phastai a bennu lan yn y 'Black Boy' am beint neu ddou cyn mynd nol i'r Waunfawr ar bwys Ceunant er mwyn creu a thrafod llenyddiaeth i gam o gam :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 37 gwestai