Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dre ydi Caernarfon yn Nyffryn Ogwen i mi a ffrindiau, ond mae'r rhai ifancach (mae hynny'n swnio'n ofnadwy oed fi) yn defnyddio Dre i gyfeirio at Fangor erbyn hyn.
Dre 'dwi a'm cyfeillion o Ddyffryn Ogwen yn galw Caernarfon, ond i Fangor 'da ni'n mynd i siopa ayyb. Am ryw reswm, gair Cnafron ydi dre, er nad ydan ni'n mynd yno mor aml a hynny.