Mae Adam Price, yn ei golofn yn Golwg heddiw, yn galw am sefydlu ymgyrch IE dros senedd i Gymru yn ddioed. Fel aelod cyffredin o Blaid Cymru, diolch byth ydi f'ymateb i. Dwi wedi bod yn bryderus iawn am y tawedogrwydd o gyfeiriad arweinyddiaeth PC ar fater refferendwm ar senedd lawn yn 2010- oedd, fe gofiwch, yn un o'r prif ddadleuon a gafwyd dros sefydlu clymblaid a'r Blaid Lafur y llynedd. Yr addewid a gafwyd gan arweinyddiaeth PC oedd y byddai'r Blaid Lafur nid yn unig yn cefnogi sefydlu refferendwm yn 2010 ond y bydde nhw hefyd yn ymgyrchu dros bleidlais IE. Ar y pryd, roeddwn i'n amheus iawn a fyddai'r Blaid Lafur yn cadw at yr elfen gyntaf o'r addewid honno, heb son am yr ail gymal a dwi'n meddwl bod y synau sy'n dod o'r Blaid Lafur dros y misoedd diwethaf yn cadarnhau'r gred honno. Dwi'n credu bod Adam Price heddiw yn tanlinellu'r pwynt sylfaenol hyn am anwadalwch a diffyg ymroddiad y Blaid Lafur ar y mater hwn, ac mae o mwy neu lai yn cydnabod bod rhaid i Blaid Cymru ddangos mwy o asgwrn cefn ac arweiniad os ydan ni am weld senedd lawn yng Nghymru.
O gofio hefyd bod David Davies Mynwy eisoes wedi cychwyn ar ymgyrch NA, a pherig gwirioneddol y bydd y gwrth-ddatganolwyr pellach yn achub y blaen ar bawb ac yn gosod yr agenda ar y mater hwn, pa reswm sydd dros oedi pellach mewn gwirionedd? Hefyd mae Syr Emyr Parry Jones wrthi'n trampio'r wlad ar hyn o bryd yn ceisio mesur y farn o blaid rhagor o rymoedd i'r Cynulliad: ond sut ar wyneb y ddaear mae disgwyl i bobl ymateb i'w genhadaeth o heb fod ein plaid genedlaethol yn gosod y dadleuon gerbron y cyhoedd?
Hyd yn oed pe na bai modd cynnal y refferendwm yn 2010, byddwn i'n dadlau bod hi'n hen bryd gweld ymgyrch IE ar waith. Yn yr Alban, roedd yna Gonfensiwn Cenedlaethol wedi'i sefydlu i gyflwyno dadleuon o blaid senedd i'r Alban- a hynny 5 MLYNEDD cyn y bleidlais dyngedfennol nol yn 1997.
Mae llwyddiant Barack Obama yn Yr UDA wedi dangos pwysigrwydd ymgyrchu ar lawr gwlad a thynnu gwirfoddolwyr i mewn i'r broses wleidyddol ar y lefel leol; a dwi'n mawr obeithio mai dyna'r trywydd y bydd PC yn ei ddilyn mewn ymgyrch dros Senedd lawn. Hynny yw, mae angen ymgyrch sydd yn mynd y tu hwnt i ffiniau pleidiol traddodiadol gan dynnu miloedd o bobl i gyfrannu at yr ymgyrch.