Tudalen 1 o 1

Aelod blaengar o Blaid Cymru wedi ymuno â'r grŵp annibynnol?

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2009 9:01 pm
gan Siani Flewog
Blwyddyn newydd dda bawb! Dwi wedi bod ffwrdd o'r ffwrdd o'r seiat ers dipyn ac wedi synnu nad oes llawer yn mynd ymlaen yma (oni bai fy mod i'n gwneud rhywbeth o'i le?). Darllenais yn ddiweddar yn y Daily Post fod aleod blaengar iawn o Blaid Cymru ar Gyngor Gwynedd wedi eu gadael i ymuno a'r grwp annibynol. Pwy ydy hwn neu hi? Does dim trafodaeth ar ad-drefnu strwythur ysgolion cynradd Gwynedd mwyach. Dwi hefyd yn synnu nad oes trafodaeth ar gynnigion Cyngor Sir Gar ar uno Maes yr Yrfa a'r Gwendraeth a.y.b. Edrych ymlaen at ymateb. Hwyl ?

Re: AELOD BLAENGAR O BLAID CYMRU WEDI YMUNO A'R GRWP ANNIBYNOL

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2009 11:49 pm
gan sian
Mwy o drafod ar flogiau mae'n debyg - trafod yr 'ymadawiad' yma ac yma

Re: Aelod blaengar o Blaid Cymru wedi ymuno â'r grŵp annibynnol?

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2009 1:41 pm
gan Hedd Gwynfor
Jiw Jiw, trafodaeth itha' twym ar Blog Menai! :ofn:

Re: Aelod blaengar o Blaid Cymru wedi ymuno â'r grŵp annibynnol?

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2009 4:06 pm
gan Mr Gasyth
Dwi'n cymryd mai 'blaenllaw' ydi'r teitl i fod?

Re: Aelod blaengar o Blaid Cymru wedi ymuno â'r grŵp annibynnol?

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2009 6:12 pm
gan Siani Flewog
Wel, dyfynnu Alwyn Gruffydd yn y Daily Post oeddwn i! Diolch Sian am y cyfeiriadau at y blogiadau - diddorol iawn!