Tudalen 1 o 2

T. Llew Jones 1915 - 2009

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2009 5:25 pm
gan cymro1170
Bu farw'r awdur plant poblogaidd T Llew Jones.

Roedd yn 93 oed.

Disgrifiwyd ef gan yr Archdderwydd Dic Jones fel "un o eiconau'r genedl'.

Dywedodd yr Archdderwydd wrth y BBC: "Bydd y genedl gyfan yn gweld ei eisiau, fel bardd, athro, beirniad, llenor a darlledwr â llais unigryw oedd wedi ei greu ar gyfer meicroffon.

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4 ... 129778.stm

Re: T. Llew Jones 1915 - 2009

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2009 5:31 pm
gan Kantorowicz
Colled mawr ar ei ôl. Bardd, llenor, a llawer mwy na hynny. Cawr o ddyn ac "eicon y genedl".

A dim gair yn Saesneg ar wefan BBC "Wales" na "Wales" Online. Dyma genedl ddwyieithog.

Heddwch iddo.

Re: T. Llew Jones 1915 - 2009

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2009 5:48 pm
gan Hedd Gwynfor
Heddwch i'w lwch.

Re: T. Llew Jones 1915 - 2009

PostioPostiwyd: Sul 11 Ion 2009 11:36 pm
gan Rhodri Nwdls
Mi gynnodd Trysor y Mor Ladron fy nychymyg i'n llwyr pan yn blentyn a ddarllenais i'r llyfr drosodd a throsodd.

Diolch am hynny T Llew Jones. Fydda i'n siwr o'i ddarllen i mhlentyn inna pan fydd hi'n hyn, fel y gwnaeth fy nhad i fi gyda'i gopi gwreiddiol o.

Re: T. Llew Jones 1915 - 2009

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2009 1:30 pm
gan Gowpi
Colled mawr. Trioleg Twm Sion Cati odd fy hoff drioleg erioed - curo Star Wars hyd yn oed!

Re: T. Llew Jones 1915 - 2009

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2009 1:34 pm
gan Cymro13
Gowpi a ddywedodd:Colled mawr. Trioleg Twm Sion Cati odd fy hoff drioleg erioed - curo Star Wars hyd yn oed!


eiliaf,

Nofelau gwych cofio darllen Trysor y Mor Ladron am wythnosau

Pob cydymdeimlad i'r Teulu

Re: T. Llew Jones 1915 - 2009

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2009 1:43 pm
gan Duw
'Trysor Plasywernen' i mi. Anghofiais cystal oedd tan i mi ei ddarllen i'm plant y llynedd.

Re: T. Llew Jones 1915 - 2009

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2009 3:37 pm
gan Cymro13
Kantorowicz a ddywedodd:A dim gair yn Saesneg ar wefan BBC "Wales" na "Wales" Online. Dyma genedl ddwyieithog.


fersiwn Saesneg yma

Re: T. Llew Jones 1915 - 2009

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2009 7:40 pm
gan Josgin
Dyn galluog a'r dawn i greu ac adrodd stori.Gwnaeth hynny heb adael y Fro Gymraeg . Fy ffefrynau innau oedd llyfrau Twm Sion Cati a
'Corn, Pistol a Chwip '. Yr oedd hefyd yn chwaraewr gwyddbwyll penigamp, ac ysgrifennodd lyfr Cymraeg ar y testun. Credaf iddo fathu'r termau
Cymraeg hefyd. Yr oedd hefyd yn awdur gwerslyfrau gramadeg (Hen-ffasiwn , da) . Ef yw'r unig awdur Cymraeg sydd wedi cynnal diddordeb fy merch
ddeg oed. Cawr na welwn ei fath eto.

Re: T. Llew Jones 1915 - 2009

PostioPostiwyd: Maw 13 Ion 2009 12:33 am
gan Kantorowicz
Cymro13 a ddywedodd:
Kantorowicz a ddywedodd:A dim gair yn Saesneg ar wefan BBC "Wales" na "Wales" Online. Dyma genedl ddwyieithog.


fersiwn Saesneg yma


Nage - dim ond y darn bywgraffyddol sydd yno: does dim stori newyddion wedi ymddangos amdano yn Saesneg.

Cafwyd un am farwolaeth "un a nabyddai eiconau llên" (sef Eluned Phillips, oedd yn nabod Dylan Thomas ac Edith Piaff), ond dim sôn o gwbl am farwolaeth "un o eiconau'r genedl" (chwedl Dic Jones yn y stori Gymraeg ar BBC Cymru'r Byd).