Tudalen 1 o 1

Eluned Phillips 1914 - 2009

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2009 1:42 pm
gan Gowpi
Bu farw'r bardd Eluned Phillips yn 94 oed.
Oddi ar y BBC:
Eluned Phillips yw'r unig fenyw i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - yn gyntaf yn 1967 ac wedyn yn 1983 gyda phryddest am Ryfel y Malvinas/Falklands yn gefndir iddi.Dywedodd yr Archdderwydd Dic Jones ddydd Sul mai hi "oedd, mae'n debyg, aelod hynaf yr Orsedd ac, yn sicr, yr un mwyaf ffyddlon". Mae'n debyg, meddai, iddi fod yn aelod ers y 1930au.

Ges i'r fraint o gwrdd a hi a chynnal cyfweliad papur bro gyda hi - am wraig ddiddorol. Mae ganddi fywgraffiad 'The Reluctant Redhead' sy'n ddifyr iawn.
Ma' angen mwy o gymeriade fel hi.
Yn rhyfedd iawn, roedd hi ond flwyddyn yn hyn na T Llew Jones ac yn byw ddim ym mhell oddi wrtho - falle mod i'n iawn yn dweud iddynt fod yn yr un ysgol gynradd...?