Tudalen 1 o 2

Americanwyr gwirion yn camddehongli Cymru ar y we

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 6:11 pm
gan cymraes82
Sa i'n siwr ma dyma'r lle gorau i bostio hwn. Wrth ymchwilio chwedlau Cymraeg, a'r Mabinogi ayyb ar y we, des i ar draws pethau fel hyn.

http://www.tylwythteg.com/
http://www.dynionmwyn.net/dynionmwyn/dynionmwyn23.html
http://www.eadhadeora.org/?q=node/104

Basically, be yw nhw yw grwpiau 'Pagan' Americanaidd, sy'n llawn o bobl efo enwau ffug gwirion, di selio ar y Gymraeg. Ma nhw di dyfeisio 'crefydd' hollol BS a ma Cymru fel 'mecca' iddyn nhw. Ma nhw'n sgwennu llyfrau am bethaua Cymraeg a basically camddehongli Cymru a'i hanes, i wneud elw a bwydo'u ego. Hefyd roedd elfen dodgy iawn, fel rituals rhywiol, ond ma nhw di cymryd pethau fel na bant o'r wefan nawr.

Ma nhw di creu Cymru sy ddim yn bodoli. Dwi jest methu deall pobl fel hyn, ma nhw'n nyts!

Re: Americanwyr gwirion

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 6:24 pm
gan Mali
Teitl camarweiniol braidd....methu mynd i mewn i'r ddau linc cyntaf yn dy restr sori.
Eniwê , croeso i'r maes! :)

Re: Americanwyr gwirion

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 6:29 pm
gan cymraes82
be ddyle'r teitle fod? doeddwn i ddim yn trio bod yn gamarweiniol, sori!

http://www.tylwythteg.com/
ydy hwn yn gweithio?

diolch am y croeso!

Re: Americanwyr gwirion

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 6:41 pm
gan Mali
Ydi mae'n gweithio'n berffaith diolch ! :)
Paid a phoeni am y teitl rwan....fi sydd heb ddeffro'n iawn... :winc:
Linc diddorol iawn gyda llaw.

Re: Americanwyr gwirion yn camddehongli Cymru ar y we

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 7:51 pm
gan ap Dafydd
Mae pob Pagan yn gwybod am Ye Twitchy Twig fel enghraifft gwael fflyff Americanaidd

Linc yma http://www.geocities.com/yetwitchytwig/

Un arall http://www.tylwythteg.co.uk/ i gywiro'r record

hwyl

Ffred

Re: Americanwyr gwirion yn camddehongli Cymru ar y we

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 8:38 pm
gan Seonaidh/Sioni
Wel dydw i ddim yn mynd i falu awyr dros ryw nytars iancaidd.

Re: Americanwyr gwirion yn camddehongli Cymru ar y we

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ion 2009 8:51 pm
gan Duw
Ydyn nhw'n sbowtian stwff rhywiol??! Am Gymru? Bring it on. Ching ching.

Re: Americanwyr gwirion yn camddehongli Cymru ar y we

PostioPostiwyd: Sad 24 Ion 2009 3:19 pm
gan cymraes82
ap Dafydd a ddywedodd:Mae pob Pagan yn gwybod am Ye Twitchy Twig fel enghraifft gwael fflyff Americanaidd

Linc yma http://www.geocities.com/yetwitchytwig/

Un arall http://www.tylwythteg.co.uk/ i gywiro'r record

hwyl

Ffred


O ffiw!
S'gen i ddim byd yn erbyn paganiaid o gwbl, jest ges i bach o sioc ar ol gweld gymaint o rwtch di sgwennu am Gymru. Gas gen i weld pobl yn 'twistio' hanes a diwilliant Cymru i siwtio nhw.
Ga i ofyn, wyt ti'n pagan? Oes na lot yng Ngymru?

Re: Americanwyr gwirion yn camddehongli Cymru ar y we

PostioPostiwyd: Sad 24 Ion 2009 8:25 pm
gan ap Dafydd
cymraes82 a ddywedodd:Ga i ofyn, wyt ti'n pagan? Oes na lot yng Ngymru?


Dwi yn Bagan. Ac oes, mae rhai ohonom yng Nghymru. Anodd i gyfri faint yn fanwl - doedd ddim tickbox yn y Census diwethaf am Baganiaid er bod mwy o Baganiaid yn y DU na'r Jainiaid, Bahais, Rastafariaid, a.y.b. (go ffigyr...) ond mae grwpiau sy'n cyfarfod yn rheolaidd yn Abertawe, Castellnedd, Caerdydd, a nifer o lefydd eraill yn y De. Hefyd cwpl o grwpiau-e ar yahoo (Welsh_Pagans a pfwales).

Llai ohonom yn gweithio drwy'r Gymraeg (ond gwelais rhywun arall ar maes-e)

bendithion

Ffred

Re: Americanwyr gwirion yn camddehongli Cymru ar y we

PostioPostiwyd: Sad 24 Ion 2009 9:35 pm
gan Seonaidh/Sioni
Wel, nid pagan mohonof innau - ond mae na lot yng Nghymru! Holl boblogaeth Powys, er enghraifft - sef, i'r Rhufeiniaid, "Paganensis"...