Tudalen 2 o 2

Re: Americanwyr gwirion yn camddehongli Cymru ar y we

PostioPostiwyd: Llun 26 Ion 2009 1:05 pm
gan Llefenni
Credu bod defnyddiwr paganaidd arall ar y we hefyd... neu wican (ac ymddiheuriade MAWR am beidio bod up ar sefyllfa'r wiccaniaid / paganiaid), xxglennxx dwi'n credu, ond heb ei weld yn trafod yma ers oes pys.

Re: Americanwyr gwirion yn camddehongli Cymru ar y we

PostioPostiwyd: Sad 31 Ion 2009 9:19 pm
gan Gwenci Ddrwg
Haha oedd fy hen athrawes yn baganaidd fel y rhain, dim byd newydd. Doedd hi ddim yn wybod gormod am yr iaith, sefyllfa modern ayyb, jyst am dderwyddon à la Asterix (y rhan y gafodd ei ddyfeisio canrif yn ôl, nid y fath o dderwydd a welodd Caesar). Tybiwn fod yn rhan fwyaf ohonynt yn Amerig fel na...

Syndod mawr oedd o pan es i i Gymru a welais i ddim UN derwydd yno- hyd yn oed yn y goedwig. D'oh. :rolio:

Ydyn nhw'n sbowtian stwff rhywiol??! Am Gymru? Bring it on. Ching ching.

Haha, nac ydynt, fel arfer am fewnfudwyr, os dwi'n cofio'n iawn...

neu wican

Ond peth arall ydy hynny, nac ydy? Mwy o ddewiniaeth, llai o dduwdodau ac ati... 8)

Re: Americanwyr gwirion yn camddehongli Cymru ar y we

PostioPostiwyd: Sul 01 Chw 2009 8:38 pm
gan ap Dafydd
Gwenci Ddrwg a ddywedodd:
neu wican

Ond peth arall ydy hynny, nac ydy? Mwy o ddewiniaeth, llai o dduwdodau ac ati... 8)


Mae pob Wican yn Bagan, nid pob Pagan yn Wican...

hwyl

Ffred