Tudalen 1 o 2
Eira! Be na'n ni?
Postiwyd:
Llun 02 Chw 2009 12:03 pm
gan Orcloth
Re: Eira! Be na'n ni?
Postiwyd:
Llun 02 Chw 2009 12:48 pm
gan Gowpi
Dim fflwcsyn ffor' hyn
Re: Eira! Be na'n ni?
Postiwyd:
Llun 02 Chw 2009 1:19 pm
gan Duw
Pidwch a siarad - ces f'anfon gatre o'r ysgol heddi. RC-blydi-T. Stim blydi siap ma. Llai na 1cm o ira a bysiau'n gwrthod dod a phlant i'r ysgol. Pathetic. Trwbwl yw, mae pawb yn beio'r athrawon a'r penaethiaid - dy'n nhw ddim yn gwbod hanner hi.
Re: Eira! Be na'n ni?
Postiwyd:
Llun 02 Chw 2009 1:33 pm
gan Madrwyddygryf
Hollol gywir. Nes i godi fyny bore ma gyda James Naughtie ar Radio 4 yn sgrechian am y eira. Mi es drosodd i'r ffenestr ac roedd fel diwrnod o haf, dim un sbotyn.
Be sydd mater a'r wlad ma'. Ble mae ein ysbryd y Blitz?
Re: Eira! Be na'n ni?
Postiwyd:
Llun 02 Chw 2009 1:37 pm
gan Macsen
Madrwyddygryf a ddywedodd:Hollol gywir. Nes i godi fyny bore ma gyda James Naughtie ar Radio 4 yn sgrechian am y eira. Mi es drosodd i'r ffenestr ac roedd fel diwrnod o haf, dim un sbotyn.
Be sydd mater a'r wlad ma'. Ble mae ein ysbryd y Blitz?
Ymmm ti'n deall bod tywydd yn medru amrywio o un lle i'r llall dwyt?
Re: Eira! Be na'n ni?
Postiwyd:
Llun 02 Chw 2009 2:38 pm
gan Hogyn o Rachub
Mai fod i fwrw eira'n drwm yng Nghaerdydd mewn hanner awr yn ôl y BBC (cyn i neb ddeud dwi'n gwbod nad ydi 15:0 Heavy Snow Showers yn golygu yn union am dri, calliwch wir), dandryfflyd y buo hi hyd yn hyn ac mae'r haul i'w weld yn braf iawn ar y funud. Tai'm i drystio'r lol tywydd 'ma.
Re: Eira! Be na'n ni?
Postiwyd:
Llun 02 Chw 2009 3:41 pm
gan Kez
Ma'r eira yn drwch dros bob man yn Llundain 'ma - y mwya ers deunaw mlynadd, meddan nhw. Dim un bws mas ar yr 'ewl a dim ond amall i gar weli di. Dim gwaith 'eddi a newydd gal texst yn gwed bod dim gwaith 'fory chwaith - I fuckin love snow - 'ta bach o lwc, fi gaf i'r wthnos off.
Re: Eira! Be na'n ni?
Postiwyd:
Llun 02 Chw 2009 6:28 pm
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:Pidwch a siarad - ces f'anfon gatre o'r ysgol heddi. RC-blydi-T. Stim blydi siap ma. Llai na 1cm o ira a bysiau'n gwrthod dod a phlant i'r ysgol. Pathetic. Trwbwl yw, mae pawb yn beio'r athrawon a'r penaethiaid - dy'n nhw ddim yn gwbod hanner hi.
Gyrraeddon nhw ni ar amser (NPT) bore 'ma, wedyn dod yn gynnar i'w casglu. Golles i brynhawn off achos cyfarfod
Re: Eira! Be na'n ni?
Postiwyd:
Maw 03 Chw 2009 11:54 pm
gan Mali
Kez a ddywedodd:Ma'r eira yn drwch dros bob man yn Llundain 'ma - y mwya ers deunaw mlynadd, meddan nhw. Dim un bws mas ar yr 'ewl a dim ond amall i gar weli di. Dim gwaith 'eddi a newydd gal texst yn gwed bod dim gwaith 'fory chwaith - I fuckin love snow - 'ta bach o lwc, fi gaf i'r wthnos off.
he he...da iawn ti !
Welish i luniau o'r eira yn Llundain ar ein newyddion neithiwr.....pawb i'w gweld yn mwynhau , yn bobl a phlant !
Dim blewyn yma yn y Great White North....oni bai ar y mynyddoedd
Re: Eira! Be na'n ni?
Postiwyd:
Gwe 06 Chw 2009 8:19 pm
gan Seonaidh/Sioni
5 cm o eira yn Llundain => diwedd y byd
10 cm o eira yn Newcastle => rhaid gyrru'n ofalus
20 cm o eira yn yr Alban => be amdani?
Ddoe a heddiw es i ar y tren trwy dros 60 cm o eira rhwng Perth ac Abernis, tros Ddruim Uachdar a Slochd, a'r trenau'n rhedeg yn ol yr amserlen.