Tudalen 1 o 1

Addysg Gymraeg = Puro Ethnig

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2009 10:59 pm
gan Hedd Gwynfor
Am sylwadau hurt gan y Cynghorydd Llafur ar Gyngor Caerdydd, Ramesh Patel, sydd hefyd yn gweithio'n llawn amser i Rhodri Morgan!! :drwg:

Stori o wefan y BBC:

Cwyn am sylw 'hiliol' cynghorydd

Mae'r cyngor yn edrych ar ad-drefnu addysg yn y sir

Mae cwyn swyddogol wedi ei gwneud yn erbyn cynghorydd Llafur yng Nghaerdydd am ddisgrifio'r ymdrechion i ehangu darpariaeth addysg Gymraeg yn y brifddinas fel "puro ethnig".

Fe wnaeth y Cynghorydd Ramesh Patel, sy'n gweithio yn swyddfa etholaeth Rhodri Morgan, ymddiheuro am y geiriau.

Cafodd y sylw ei wneud mewn cyfarfod cyhoeddus oedd yn trafod proses o ad-drefnu addysg yn y ddinas.

Ond mae Mr Patel yn dal i fynnu na fydd yn newid ei safbwynt.

Dywedodd ei fod yn dal i gredu bod cynlluniau'r cyngor i ehangu addysg Gymraeg yn y ddinas yn mynd i greu "arwahanu dianghenraid".

Mae Plaid Cymru hefyd wedi cyhuddo'r cynghorydd am geisio tanio ffrae ar hiliaeth.

'Tensiwn'

Mae Neil McEvoy, dirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd, yn dweud bod cefnogwyr Llafur yn ceisio rhannu cymunedau er eu budd gwleidyddol.

Galwodd hefyd ar Mr Morgan - sy'n cyflogi Mr Patel - i gondemnio'r sylw.

"Mae rhieni wedi cysylltu gyda mi ac wedi cwyno yn syth ar ôl y cyfarfod," meddai Mr McEvoy.

"Mae'n bryderus bod cynghorydd sy'n cael ei gyflogi gan Rhodri Morgan yn creu tensiwn hiliol er budd gwleidyddol."

Dywedodd Mr McEvoy ei fod wedi trafod gyda swyddogion y cyngor a wnaeth gadarnhau yn union yr hyn a ddywedodd Mr Patel.

Ychwanegodd cynghorydd Plaid Cymru ar y cyngor, Mohammed Sarul Islam, na fydd pobl y ddinas yn cael eu twyllo gan sylwadau Mr Patel.

"Mae pobl ar draws y ddinas, o ba bynnag gefndir ethnig, yn gwbl ymwybodol o'r dewis i gael addysg Gymraeg neu Saesneg i'w plant," meddai.

'Gofid'

"Yr hyn mae'n rhaid i'r cyngor ei sicrhau ydi bod llefarydd ar gael yn yr ysgolion er mwyn parhau i gynnig y dewis hwnnw.

"Yn ôl y ffeithiau, mae mwy o deuluoedd, o bob cefndir, yn dewis addysg mewn ysgolion Cymraeg ac mae angen i'r cyngor gynyddu'r ddarpariaeth hwnnw."

Mewn ymateb fe ddywedodd Mr Patel, sy'n gynghorydd yn Nhreganna, ei fod yn ymddiheuro os wnaeth ei ddewis o eiriau achosi unrhyw ofid.

"Rwy'n dal at fy nadl a wnes i yn y cyfarfod nad ydi'r cynlluniau y cam cywir ar gyfer Treganna.

"Rwyf am i'r gymuned gosmopolitan sydd yng Nghaerdydd gael ei adlewyrchu yn yr ysgolion yn Nhreganna a Glanyrafon.

"Fydd y cynllun a gafodd ei gyflwyno gan y glymblaid sy'n rheoli'r ddinas, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, ddim yn cyrraedd y nod yma ac fe fyddwn ni'n creu cymuned fydd wedi ei gwahanu yn ddianghenraid."

Re: Addysg Gymraeg = Puro Ethnig

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2009 11:38 pm
gan hanna o dreganna
Ymgyrch Ysgol Treganna i geisio cael ysgol sy'n ddigon mawr i addysgu'r plant ynddi ydi sbardun sylw gwarthus y Cynghorydd Patel.

Ga i apelio ar unrhyw un sy'n byw yng Nghaerdydd sydd â chydymdeimlad â'n hachos i ymateb i ymgynghoriad Cyngor Caerdydd ar y mater. Opsiwn 1, sef cau Ysgol Lansdowne mae ymgyrch cefnogwyr Treganna yn ei gefnogi. Mae pedair ysgol cyfrwng Saesneg yn Nhreganna (Canton) a llawer gormod o lefydd gwag ynddyn nhw. Mae dros 90 o lefydd gwag yn Lansdowne a chanran uchel o'r plant yn teithio i mewn o ardaloedd eraill o Gaerdydd.

Ar y llaw arall o fis Medi bydd plant Ysgol Treganna yn cael eu gwasgaru ar hyd safleoedd 3 ysgol. Ydi hyn yn deg?

Re: Addysg Gymraeg = Puro Ethnig

PostioPostiwyd: Iau 05 Chw 2009 12:10 am
gan Hedd Gwynfor
O ran diddordeb, sawl opsiwn sydd, a beth ydyn nhw? Yw'r Cyngor wedi datgan eu bod yn ffafrio unrhyw un hyd yma?

Re: Addysg Gymraeg = Puro Ethnig

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2009 5:14 pm
gan ffric
Opsiwn 1 - Cau Ysgol Lansdowne ac adleoli Ysgol Gymraeg Treganna i safle'r ysgol honno.
Opsiwn 2 - Adleoli ysg Lans i adeilad newydd sbon a symud ysg Treg i safla bresennol Lansdowne.

Dyna'r opsiynnau mae'r awdurdod yn ymgynghori arnyn nhw ar hyn o bryd.

Yn anffodus, chan ni ddim rhoi barn ar yr atab mwya synhwyrol sef symud ysg Gym Treganna i'r ysgol saesneg hannar gwag sy' drws nesa iddi. Dyna ma pob rhiant yn ysg Treganna a phob rhiant yn ysg Lans isho.

Re: Addysg Gymraeg = Puro Ethnig

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2009 11:01 pm
gan Kantorowicz
Oes gan y Cyngor reswm da dros beidio ag ymgynghori ar y trydydd opsiwn yna ar hyn o bryd? (Gafwyd addewid i wneud maes o law?)

Re: Addysg Gymraeg = Puro Ethnig

PostioPostiwyd: Sad 07 Chw 2009 1:27 am
gan Kantorowicz
rhyw ychydig o drafod ar y mater yma ar flog Vaughan Roderick.

Re: Addysg Gymraeg = Puro Ethnig

PostioPostiwyd: Sad 07 Chw 2009 9:02 am
gan ffric
'Di ysgol Radnor ddim yn rhan o gynlluniau'r cyngor o gwbl.

Fis Medi yma mi fydd 120 o blant newydd isho lle o fewn ysgol Gymraeg yn Nhreganna. Cynnydd o 50% ar llynedd. Roedd yr awdurdod wedi amcangyfrif y bysa'r niferoedd hynny'n cael eu cyraedd ym 2011 !!! Hyd yn oed tasa ysg Treg yn symud i Lansdowne yn 2011, 'sa angan ysg Gym newydd yn yr ardal yn syth, o dderbyn bod y cynnydd yn y galw hannar be 'di o rwan. Does dim cynlluniau ar gyfar yr ysgol honno ac mae'r awdurdod addysg flwyddyn neu ddwy ar ei hol hi efo'u cynlluniau. Ma hyn oherwydd i Plaid Cymru achosi blwyddyn gron o oedi dibwrpas yn ymgynghori ar rwbath does na neb isho - ysgol newydd sbon saesneg, ar gost o 5 miliwn, yn Nhreganna.

Wrth gwrs, 'dani yn y sefyllfa hon o gwbl o achos cynghorwyr Llafur gwrthgymreig lleol.

Re: Addysg Gymraeg = Puro Ethnig

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2009 10:35 pm
gan LLewMawr
sut ydy unrhywun yn gallu cysylltu hil gyda'r iaith gymraeg?

wn i ddim.

Re: Addysg Gymraeg = Puro Ethnig

PostioPostiwyd: Mer 11 Chw 2009 9:53 pm
gan hanna o dreganna
Dach chi wedi gweld hyn ta?
http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters ... nroderick/
Mae prif weinidog ein gwlad ni yn galw'r hawl i 'mhlant i gael addysg Gymraeg yn hiliol. Cywilydd arno fo