Tudalen 1 o 1

Hoffech chi gael £15 am helpu i ddatblygu'r Cyfrifiad?

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2009 10:01 am
gan CyfrifiadCymraeg
Hoffech chi gael £15 am helpu i ddatblygu Holiaduron Arolwg Cwmpas Cyfrifiad 2011?

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu holiaduron Cymraeg Arolwg Cwmpas Cyfrifiad 2011. Mae’n bwysig ein bod yn profi’r cwestiynau ar amrywiaeth eang o bobl i sicrhau eu bod yn glir ac yn hawdd eu hateb.

Hoffem gwrdd â chroestoriad o siaradwyr Cymraeg o bob cwr o Gymru, sydd heb helpu gyda’r gwaith hwn o’r blaen.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cwrdd â phobl o’r categorïau hyn:

• Rheolwyr sefydliadau cymunedol
• Pobl sydd ag ail gyfeiriad (e.e. wrth weithio oddi cartref, myfyrwyr)
• Pobl ddi-waith (am gyfnod hir neu dros dro)
• Pobl sydd â thenantiaid neu lojers
• Pobl sy’n rhannu eu cartref
• Pobl ag ymwelydd yn aros gyda nhw ar 4 Ionawr 2009, neu er 4 Ionawr 2009
• Pobl sydd wedi cael babi er 4 Ionawr 2009
• Pobl o’r tu allan i’r DU sy’n aros yma am gyfnod dros dro
• Pobl sydd wedi symud ty er 4 Ionawr

Os yw un neu fwy o’r meini prawf uchod yn berthnasol ichi, neu i unrhyw rai o’ch ffrindiau, o’ch teulu, o’ch cymdogion neu o’ch cydweithwyr, hoffem gwrdd â chi neu â’r bobl hynny, rhwng 18 Chwefror a 27 Chwefror 2009.

Byddwn yn dod i’ch cartref i ofyn ichi naill ai ateb cwestiynau a gaiff eu gofyn ichi gan gyfwelydd, neu lenwi holiadur eich hun; ac wedyn trafod rhai o’r cwestiynau. Dylai hyn gymryd tua awr. Ni chaiff unrhyw fanylion personol eu defnyddio am unrhyw reswm, na’u datgelu i unrhyw un arall.

Bydd y bobl sy’n cymryd rhan yn cael £15 i ddiolch iddynt am ein helpu. Nodwch nad oes hawl gan staff y Swyddfa Ystadegau Gwladol na Llywodraeth Cynulliad Cymru gymryd rhan yn y gwaith datblygu hwn.

Os byddwch yn gwybod am rywun sydd â diddordeb, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jayne Mathias, drwy anfon e-bost at jayne.mathias@ons.gsi.gov.uk, neu drwy ffonio 07766 232528.

Diolch.