52% o blaid Senedd lawn i Gymru

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

52% o blaid Senedd lawn i Gymru

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 26 Chw 2009 5:13 pm

Newyddion gwych. Arolwg diweddara'r BBC yn dangos fod 52% o bobl Cymru o blaid Senedd llawn i Gymru o'i gymharu â 39% yn erbyn. Y canran uchaf mewn unrhyw arolwg erioed. :D

http://news.bbc.co.uk/2/hi/uk_news/wale ... 912263.stm

Law-making Welsh parliament with tax powers in UK: 34%
Law-making Welsh parliament with no tax powers in UK: 10%
Independent Wales outside UK but in EU: 8%
Independent Wales outside UK and EU: 5%
Status quo: 21%
Abolish assembly 19%
Don't know: 4%
Source: BBC Wales/ICM poll
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: 52% o blaid Senedd llawn i Gymru

Postiogan Duw » Iau 26 Chw 2009 5:21 pm

Pa mor ddibynadwy yw'r ffigurau hyn? Mae poliau piniwn yn bethe reit twyllodrus. Bydda i ddim yn ffyddiog bo hyn yn adlewyrchiad teg tan bo o leiaf 10 pwynt rhyngddynt.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: 52% o blaid Senedd llawn i Gymru

Postiogan Ray Diota » Iau 26 Chw 2009 5:28 pm

Duw a ddywedodd:Pa mor ddibynadwy yw'r ffigurau hyn? Mae poliau piniwn yn bethe reit twyllodrus. Bydda i ddim yn ffyddiog bo hyn yn adlewyrchiad teg tan bo o leiaf 10 pwynt rhyngddynt.


A total of 52% said they would vote for full law-making powers in a referendum, 39% said they would vote against.


'na ti de...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: 52% o blaid Senedd llawn i Gymru

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 26 Chw 2009 5:33 pm

Fi'n credu mai'r trend sy'n bwysig:

2009 - 52% o Blaid / 39% yn erbyn
2008 - 49% o Blaid / 42% yn erbyn
2009 - 47% o Blaid / 44% yn erbyn

Ond, bydd geiriad y cwestiwn mewn unrhyw refferendwm yn holl bwysig.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: 52% o blaid Senedd llawn i Gymru

Postiogan Duw » Iau 26 Chw 2009 6:16 pm

Ray Diota a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Pa mor ddibynadwy yw'r ffigurau hyn? Mae poliau piniwn yn bethe reit twyllodrus. Bydda i ddim yn ffyddiog bo hyn yn adlewyrchiad teg tan bo o leiaf 10 pwynt rhyngddynt.


A total of 52% said they would vote for full law-making powers in a referendum, 39% said they would vote against.


'na ti de...


Warra dic. Byddet ti byth yn credu o'n i'n arfer dysgu maths! Cymeres i 48% felly ddim yn mynd i fod o blaid. Nes i ddim edrych ar y ffigurau'n fanwl. Ger llaw o ble daeth 52% a 39%?

Status Quo/Abolish = 40% (21 + 19% - ok deall gwallau rowndio); Sut ydy'r 52% wedi'i wneud allan o'r gweddill? Ydy'n eithrio 5% Independence (EU/UK)?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: 52% o blaid Senedd llawn i Gymru

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 26 Chw 2009 9:33 pm

Methu deall y 40%. Wrth gwrs dylai Cymru gael senedd o iawn - pam na chafodd i un pan gafodd yr Alban un? Faint o bobl Prydain fasai am roi "Cynulliad" yn lle Senedd San Steffan? Neu siop siarad yn lle, dyweder, Cyngor Dyfed? Heb hawl gwneud cyfraith, does fawr pwynt am gorff "llywodraethol". Dylwn i wybod hynny - rydw i'n Ysgrifennydd o gorff o'r fath, yr hyn a elwir yn "Community Council" (cyngor cymundeb) yma yn yr Alban - fel "Parish Council" Lloegr a Chymru, ond heb yr hawl i wneud is-gyfreithiau na chodi treth o gwbl.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: 52% o blaid Senedd llawn i Gymru

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 26 Chw 2009 11:14 pm

Erthygl ar BBC Cymru'r Byd erbyn hyn - http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7 ... 912933.stm
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: 52% o blaid Senedd llawn i Gymru

Postiogan Sleepflower » Gwe 27 Chw 2009 9:16 am

Fi'n credu bydd ishe polau piniwn dangos cefnogaeth gadarnach o lawer ar gyfer senedd cyn galw refferendwm. Cyn y refferendwm dwetha, wedd y polau piniwn yn dangos cefnogaeth enfawr dros greu Cynulliad, ond 51% yn unig pleidleisiodd o'i blaid e yn y diwedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: 52% o blaid Senedd llawn i Gymru

Postiogan Sleepflower » Gwe 27 Chw 2009 9:22 am

...ond fel ti'n gweud Hedd, os wyt ti o blaid sefydlu Senedd, mae hyn yn newyddion calonogol iawn, a'r trend sydd yn bwysig.

Mae'n ddifyr beth wedodd IWJ ar ail dudalen y Western Mail heddi - mae'r cefnogaeth i Senedd wedi parhau i gynyddu yng ngwyneb y gachfa gredyd. Mae pobl fel Don Touhig, os fi'n cofio'n iawn, wedi ceisio defnyddio'r economi fel esgus i beido trafod datganoli am y tro, am fod pobl yn pryderu mwy am faterion ariannol.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: 52% o blaid Senedd llawn i Gymru

Postiogan Duw » Gwe 27 Chw 2009 6:55 pm

Sleepflower a ddywedodd:...ond fel ti'n gweud Hedd, os wyt ti o blaid sefydlu Senedd, mae hyn yn newyddion calonogol iawn, a'r trend sydd yn bwysig.

Mae'n ddifyr beth wedodd IWJ ar ail dudalen y Western Mail heddi - mae'r cefnogaeth i Senedd wedi parhau i gynyddu yng ngwyneb y gachfa gredyd. Mae pobl fel Don Touhig, os fi'n cofio'n iawn, wedi ceisio defnyddio'r economi fel esgus i beido trafod datganoli am y tro, am fod pobl yn pryderu mwy am faterion ariannol.

Bydden i'n meddwl bo materion ariannol a datganoli yn gorfod cael eu trafod gyda'i gilydd - sut oes modd trafod datganoli heb ystyried yr hinsawdd ariannol?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron