Tudalen 2 o 2

Re: 52% o blaid Senedd llawn i Gymru

PostioPostiwyd: Llun 02 Maw 2009 10:58 pm
gan Aberblue
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Methu deall y 40%. Wrth gwrs dylai Cymru gael senedd o iawn - pam na chafodd i un pan gafodd yr Alban un? Faint o bobl Prydain fasai am roi "Cynulliad" yn lle Senedd San Steffan? Neu siop siarad yn lle, dyweder, Cyngor Dyfed? Heb hawl gwneud cyfraith, does fawr pwynt am gorff "llywodraethol". Dylwn i wybod hynny - rydw i'n Ysgrifennydd o gorff o'r fath, yr hyn a elwir yn "Community Council" (cyngor cymundeb) yma yn yr Alban - fel "Parish Council" Lloegr a Chymru, ond heb yr hawl i wneud is-gyfreithiau na chodi treth o gwbl.


Does dim fath beth a "Cyngor Dyfed" yn bod - diolch byth! :lol:

Re: 52% o blaid Senedd llawn i Gymru

PostioPostiwyd: Maw 03 Maw 2009 8:31 pm
gan Seonaidh/Sioni
Aberblue a ddywedodd:Does dim fath beth a "Cyngor Dyfed" yn bod - diolch byth! :lol:

Wel, Cyngor Ceredigion efallai. Ond faset ti'n deud fod yr holl beth a sgwennais yn annilys gan nad ydy "Cyngor Dyfed" yn bodoli ar hyn o bryd? De do phunig? (Be dy dy bwynt?)

Re: 52% o blaid Senedd llawn i Gymru

PostioPostiwyd: Iau 05 Maw 2009 10:37 pm
gan Aberblue
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:
Aberblue a ddywedodd:Does dim fath beth a "Cyngor Dyfed" yn bod - diolch byth! :lol:

Wel, Cyngor Ceredigion efallai. Ond faset ti'n deud fod yr holl beth a sgwennais yn annilys gan nad ydy "Cyngor Dyfed" yn bodoli ar hyn o bryd? De do phunig? (Be dy dy bwynt?)


Rwy'n cytuno gyda ti, dim ond mynegu rhyddhad nad yw Dyfed yn bod mwyach oeddwn, a hefyd yn cesio gwarchod rhag unrhyw ymdrech i geisio adfywio'r anghenfil hwn o sir.

Re: 52% o blaid Senedd llawn i Gymru

PostioPostiwyd: Sul 08 Maw 2009 10:21 am
gan obi wan
Sut fath o senedd yw "senedd lawn"? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng "senedd lawn" ac annibyniaeth?