Tudalen 1 o 1

Maes yr Yrfa vs. Gwendraeth

PostioPostiwyd: Iau 26 Chw 2009 11:12 pm
gan Duw
Oes rhywun yn gwybod yr hyn sydd yn mynd i ddigwydd gyda'r cynlluniau i uno'r ddwy ysgol hyn? Fel dwi'n deall mae un yn gategori 2A ac un yn 2B. Beth fydde'r goblygiadau i'r iaith Gymraeg o fewn cyffinau'r 'ysgol newydd' hon?

Re: Maes yr Yrfa vs. Gwendraeth

PostioPostiwyd: Iau 26 Chw 2009 11:38 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae Maes yn 2A - lleiafswm 80% Cymraeg, mae Gwendraeth yn ysgol categori 3, Ysgol Saesneg. Mae niferoedd yn Ysgol y Gwendraeth yn disgyn yn gyflym iawn, rhyw 400 yno nawr, ac o bosib mor isel a 200 o fewn rhai blynyddoedd. Mae 800 yn Maes yr Yrfa, a mae'r rhagolygon yn dangos y bydd yn tyfu i fod yn dros 1,000 o fewn y blynyddoedd nesaf. Mae'r Cyngor eisiau uno'r ddwy ysgol. Os yw hyn yn digwydd, rhaid i'r ysgol newydd fod yn categori 2A. I'r lleiafrif bach sydd eisiau addysg Saesneg, yna mae ysgolion Saesneg yn Llanelli (o fewn 15 munud) ac mae ysgol anferth newydd sbon yng Nghaerfyrddin (o fewn 15 munud).

Re: Maes yr Yrfa vs. Gwendraeth

PostioPostiwyd: Iau 26 Chw 2009 11:52 pm
gan Hedd Gwynfor
Manylion ar wefan BBC Cymru'r Byd - http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7 ... 909662.stm

Re: Maes yr Yrfa vs. Gwendraeth

PostioPostiwyd: Gwe 27 Chw 2009 12:06 am
gan Duw
Dwi'n meddwl ei fod yn warthus bo pobl hyd yn oed yn ystyried symud i 2B (o 2A). Posib yr ardal mwya Cymreigedd Cymru. Dwi erioed wedi deall bo dim ysgolion uniaith Gymraeg tu allan i'r Dwyrain, lle bo siaradwyr Cymraeg yn go brin. Mae'n rhaid bo'r polisi 'ma'n jest wrong. Beth yw e gydag rhai o'r rhieni sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl (fel a glywais ar y radio bore 'ma) â'u hatgasedd tuag at addysg trwy eu mamiaith? Mae'n atgoffa i o Dr. Alun 'Bradwr' Williams. Ydy Adam Price wedi gwneud sylw ar hwn 'to?

Re: Maes yr Yrfa vs. Gwendraeth

PostioPostiwyd: Gwe 27 Chw 2009 11:00 pm
gan Ap Corwynt
dwi ddim wedi clywed dim o du price, faswn i ddim yn synnu os y bydd yn cadw pellter. mae'n fater hynod sensitif ymhlith ei etholaeth, yn enwedig ym mro ei febyd. mae addysg cyfrwng cymraeg yn wirioneddol amhoblogaidd yn nyffryn aman. ma'r ysgolion yn gadarnleoedd o seisnigrwydd.
maddeuwch os wnaiff hyn droi fewn i rant,
mae'n parhau i fy synnu (fel un o'r ardal) cyn lleied o frwdfrydedd sydd dros addysg gymraeg yn nwyrain sir gar yn gyffredinol. does dim o'r ddisgyblaeth a'r annogaeth i siarad cymraeg yn yr ysgol yno fel ag y sydd yn ysgolion uwchradd y de ddwyrain. pan oeddwn i yn m-y-y, os oedd dewis rhwng astudio yn gymraeg ac yn saesneg byddai'r mwyafrif llethol yn astudio'n saesneg. Does dim brwdfrydedd mawr ar lefel sirol ychwaith.
er mawr ofid, dyw e ddim yn edrych yn debygol y bydd yna werthfawrogi ar addysg cyfrwng cymraeg yng nghwm gwendraeth/ cwm aman/ dyffryn tywi nes fydd yr iaith wedi dirywio fel iaith cymdeithas i'r fan y mae yn y cymoedd dwyreiniol. cue big yellow taxi...

yn fy marn bach i yr opsiwn gorau fyddai uno'r ysgol a'i gwneud yn gategori 2A. Mae ysgolion saesneg caerfyrddin/ llanelli a Amman valley comp o fewn cyrraedd ac mae'r ysgolion hynny yn fendigedig o seisnig. ma nhw i gyd llai nac awr o daith ar fws. Mae yna ddarpariaeth i'r lleiafrif sy'n mynnu addysg Saesneg yn y cwm eisoes, yn y sir ac o fewn cyrraedd. Os bydd rhai yn dadlau dros y status quo, golyga y daw adeg pan y bydd yn rhaid i'r materion yma gael eu hwynebu yn y dyfodol. waeth gwneud hynny nawr a dadlau dros ysgol gymraeg 2a neu uwch.

Re: Maes yr Yrfa vs. Gwendraeth

PostioPostiwyd: Sad 28 Chw 2009 10:04 pm
gan Duw
Es i Ddyffryn Aman fy hun. Blydi 'townies' Rhydaman yn cymryd y mic mas o bois y pentrefi (Brynaman, Garnant ac ati) am siarad Cymraeg. Ma digon o ddiffyg ymddiriaeth addysg Gymraeg yn y pentrefi - paid a son am y trefi. Gwarth llwyr.

Re: Maes yr Yrfa vs. Gwendraeth

PostioPostiwyd: Maw 03 Maw 2009 7:31 pm
gan ITV Local Cymru
Ma na raglen gan Y Byd ar Bedwar ar Addysg Gymraeg Sir Gar.

http://www.itvlocal.com/cymru/

Re: Maes yr Yrfa vs. Gwendraeth

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 1:46 pm
gan Gowpi
Gallwch ddanfon llythyr at gyfarwyddwr addysg Sir Gaerfyrddin yn son am eich awydd i barhau gydag addysg Gymraeg yng nghwm Gwendraeth, naill ai ei hala drwy e bost neu drwy'r post. Isod mae copi o'm llythyr i wedi ei hala at VMorgan@carmarthenshire.gov.uk

Mr Vernon Morgan
Cyfarwyddwr Addysg a gwasanaethau plant cyngor Sir Gaerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1JP

Cyfeiriad a dyddiad

Annwyl Gyfarwyddwr addysg,

Parthed: Ymgynghoriad Diwygio Tair Lefel yn ardal Cwm Gwendraeth / Dinefwr

Rwy’n siwr eich bod yn hollol gytun bod angen diogelu natur ieithyddol y ddarpariaeth bresennol a gynigir yn Ysgol Maes-yr-Yrfa yng Nghefneithin, sef categori 2A, yn ôl diffiniad y Cynulliad Cenedlaethol. Mae newidiadau yn anorfod, felly mae’n holl bwysig i allu parhau gyda’r addysg Gymraeg gwych a gynigir yng nghwm Gwendraeth yn barod. Ymhellach i hynny, ein gweledigaeth fyddai gweld sefydlu Ysgol Uwchradd cyfrwng Cymraeg categori 1, ble addysgir pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgybl.

Ar hyn o bryd mae pob un o ysgolion cynradd yr ardal yn ysgolion a ddiffinnir fel ysgolion categori A, a byddai datblygiad o’r fath yn cynnig dilyniant ieithyddol i’r holl ddisgyblion hynny er mwyn diogelu a datblygu eu sgiliau ieithyddol fel eu bod yn gadael y system aadysg yn meddu ar sgiliau cyflawn yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd. Bydd angen darpariaeth hefyd ar gyfer hwyr ddyfodwyr wrth gwrs, a gellir gwneud hyn trwy gynnig cyrsiau dwys ‘Wlpan’ yn yr ysgol.

Rwy hefyd yn cefnogi’r ymgyrch yn ardal Llandeilo / Llanymddyfri i sefydlu ysgol categori 1 neu 2A yn yr ardal honno. Mae’n warthus nad oes un eisioes yn bodoli yn yr ardal o ystyried fod 75% o’r plant yn mynychu ysgolion cynradd categori A. j

Ceir tystiolaeth ddiamheuol o’r manteision addysgiadol, cymdeithasol, ieithyddol ac economaidd y byddai sefydlu ysgol o’r fath yn ei gynnig i’n plant.

Hyderaf y caf eich cefnogaeth ar y pwnc tyngedfennol hwn.

Yn gywir,