Hogyn o Rachub a ddywedodd:Diobaithyn † a ddywedodd:Es i efo blant arall or ysgol (ac ysgolion eraill) i'r senedd heddiw, fel rhan o cais y senedd i gael pobl ifanc yn cymryd diddordeb yn wleidyddiaeth. Cawsom siawns i gofyn gwestiynnau i'r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas ynh un rhan o'r dydd. Gofynais, gan ddweud, fel all Plaid sydd am annibyniaeth fod yn gefnogol o hyn pan mae fwy o arian yn dod fewn o lywodraeth ganolig nac yr ydym yn talu allan. Dywedodd, nac ydi'n feddwl all unrhyw wlad fod yn hollol 'annibynol'. Dywedodd nac oedd ef yn eisiau, na rhan fwyaf o'i blaid, hollol annibyniaeth i Gymru, ond mwy o ddatganoli a pwerau i Gymru.
Dwi'n meddwl beth mae Dafydd Êl yn ei feddwl drwy hynny ydi Cymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd, lle bo gan Frwsel rywfaint o bwerau dros Gymru ond bod y brif rymoedd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, ac nad oes gan Lundain unrhyw rym dros Gymru.
Wel, dwi'n
cymryd 'na dyna mae o'n ei feddwl, dyn ag wyr efo Dafydd Êl.
Mae Dafydd yn sicr yn fwy dyn am gydweithrediad nag annibyniaeth, ond dal yn eisiau llywodraeth llai ganolig a fwy lleol (dechreuodd y sessiwn cwestiynnu (a oedd yn 'Siambr Hywel', yn hen adeilad y cynulliad) gan son am y cytundeb a oedd rhwng Hywel Dda ac Alfred Mawr (golwg eithaf romantig ar ddatganoli). Ges i'r argraff nad oedd ganddo ots os bydd Gymru'n aros yn rhan o Prydain a'r Cyfamwlad, dim ond fod gennym fwy o bwerau dros ein hunan. Felly, fath o Brydain ddatganolig, efo San Steffan fel y Brussels.
Yn fy mharn i, mae llywodraeth fwy datganolig yn llawer tegach ar y pobl, ac yn galluogi i wir barnau pobl ardal cael ei glywed yn well, ac i'r amriw o ddiwyllianau ardderchog wlad parhau. Yr anhegwch mawr dwi'n gweld yn y system presennol yw fod gan Lloegr ei hunan ddim senedd.
Nanog, byddai'n ceisio dod o hyd i ystadegau. Ar dy ail bwynt, wnes i ddweud fod Cymru'n yn talu allan llai i'r llywodraeth canolig nag y mae'n derbyn i mewn, nid Prydain yn gyfan gwbl. Yn dwieddar mae'r llywodraeth llafur wedi rhedyg i fynnu dyledion mawr, ond dydi llywodraethau ddim fel arfer yn ceisio creu 'cyfoeth allan o awyr iach', rhag ofn gorchwiddiant enfawr a chwymp yr economi. Benthyg yw'r opsiwn orau ar gael.