Diobaithyn † a ddywedodd:
Nanog, byddai'n ceisio dod o hyd i ystadegau. Ar dy ail bwynt, wnes i ddweud fod Cymru'n yn talu allan llai i'r llywodraeth canolig nag y mae'n derbyn i mewn, nid Prydain yn gyfan gwbl. Yn dwieddar mae'r llywodraeth llafur wedi rhedyg i fynnu dyledion mawr, ond dydi llywodraethau ddim fel arfer yn ceisio creu 'cyfoeth allan o awyr iach', rhag ofn gorchwiddiant enfawr a chwymp yr economi. Benthyg yw'r opsiwn orau ar gael.
Paid a poeni. Nid yw'r ydtadegau yn bodoli ac os bydde nhw'n dweud fod Cymru yn derbyn mwy nag y mae'n cyfrannu.....mi fydde ni'n clywed hynny bob dydd o'r wythnos.
Mae llywodraethau ar y cyfan yn ddyledus. Maen't yn derbyn arian mewn trethi a maent yn benthyg. Er mwyn lleihau beth maen't yn talu yn ol.....maen't yn printio arian ac yn ychwanegu at maint o arian sydd ar gael drwy cynnig credyd. Wrth gwrs, os wyt ti'n ychwanegu at faint o arian sydd ar gael.....me hyn yn dibrisio'r arian hynny sydd ar gael yn barod. Gelwir hyn yn chwyddiant.....sydd mewn gwirionedd yn dreth arall ar y boblogaeth. Ni'n gweld yn awr yr holl adeilad a adeiladwyd ar dywod yn cwympo.....ac mae'r gwrthwyneb yn digwydd....y cyflenwad arian yn lleihau. Mae hyn yn golygu fod pethau yn rhatach ac mae Dai Dafad yn gweld hyn ac yn penderfynnu peidi gwario arian heddi achos yfory bydd e'n gallu prunnu ty neu gar neu ty gwydyr yn rhatach. Ond nid yw e fel y consumer bach da yn gwneud ei waith fel mae'r awdurdodau eisiau iddo. Mae'n rhaid cadw'r parti fynd.....rhaid gwario a benthyg ac wedyn gwario rhagor a benthyg rhagor fel y gellir chwyddo'r cyflenwad arian a chadw'r economi i dyfu. Ac yn ei dro.....gellir lleihau gwerth dyledion y llywodraeth ayyb. Bob tro mae'r defaid yn dechrau gwingo dan bwysau eu dyledion.....rhaid cymeryd camau i gadw'r parti i fynd.....i ail chwyddo'r swigen hy lleihau cyfraddau llog. Ond bob tro mae hyn yn digwydd, mae'r cwymp sydd i ddod yn mynd yn fwy. Os daw Obama a Brown i ben ac ail chwyddo'r swigen yma.....hy cael y defaid i fynd i fwy o ddyled nag y maen't ynddo yn barod.....byddan't yn gosod yr olygfa ym y cwymp mwa' posib. Rhywbeth teby i'r Almaen yn y 30'au neu Zimbabwe heddiw. Efallai eu bod hi'n rhy hwyr. Mae'r dyledion yn awr yn eu triliynau. Green shoots min uffern i.
Wrth gwrs, mae Cymru yn cael ei llusgo ar hyd y llwybr yma hefyd. Gwell byddai iddi troedio llwybr eu hunan a chreu cymdeithas sy'n gynhaliol yn hytrach nag un sy'n rhaid fynd i fwy o ddyled yn barhaus. Nid yw hi'n barod eto.....ond fe ddaw'r amser.....Ni ellir cael economi sy'n gorfod tyfu yn barhaus am un rheswm ac un rheswm yn unig......nid oes gan y byd yr adnoddau.
Dwi efallai wedi mynd i gyfeiriad arall i raddau ynd mae e i gyd yn berthnasol.