Gall Cymru fod yn Annibynnol

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gall Cymru fod yn Annibynnol

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 10 Maw 2009 10:30 pm

Gwefan wych newydd gan Blaid Cymru - http://gallcymru.com/fod-yn-annibynnol/hafan

O'r diwedd, mae'n ymddangos fod Plaid Cymru yn cymryd yr issue o annibyniaeth i Gymru o ddifri. Mae'r wefan yn safonol iawn, gyda nifer o erthyglau da, yn enwedig chwalu'r chwedlau - http://gallcymru.com/fod-yn-annibynnol/ ... r-chwedlau ac erthygl Mike Parker - http://gallcymru.com/fod-yn-annibynnol/ ... ng-nghymru

Gwych!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Gall Cymru fod yn Annibynnol

Postiogan dawncyfarwydd » Maw 10 Maw 2009 11:11 pm

Mae'n rhaid canmol y wefan - mae hi'n wych, dweud yn union yr hyn sydd angen ei ddweud. Dwi'n credu bod angen pwysleisio nad annibyniaeth lwyr ydi'r deisyfiad, ond yn hytrach gyd-ddibyniaeth o fewn Ewrop yn lle dibyniaeth lwyr ar Loegr. Ond dyna'r unig wendid - mae Price yn llwyddo i gyfuno elfennau gorau Saunders a Gwynfor, ac ar yr un pryd yn swnio fel gwladweinydd. Bfiliant.

Y broblem fawr rwan ydi bod angen cael Price i'r Cynulliad mewn pryd i arwain y Blaid i etholiadau 2011, a hynny heb danseilio arweinyddiaeth Ieuan Wyn; byddai hynny'n tanseilio gwaith gweinidogion y Blaid yn y llywodraeth - sef platfform etholiadol 2011. Mae'n gur pen, a'r peryg ydi y bydd rhai o fewn y blaid yn troi ar Adam Price fel y gwnaeth Dai Lloyd ar Dau o'r Bae ddoe, mewn ymgais digon dealladwy i amddiffyn cyraeddiadau'r blaid yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Gall Cymru fod yn Annibynnol

Postiogan aled g job » Sad 14 Maw 2009 9:57 pm

Dwi inna'n hynod o falch i weld y wefan hon. Dwi'n cydnabod bod yna elfen o gambl ynghlwm wrtho, ac mae'n bosib bod yma awgrym o putsch yn cael ei baratoi ar gyfer 2011 yn rhethreg Adam Price. Ond.......

Yn bersonol, dwi'n meddwl bod lawnsio'r wefan hon yn un o gamau pwysicaf Plaid Cymru ers sefydlu'r Cynulliad deng mlynedd yn ol. Mae'r wefan yn cyfleu negeseuon cryf iawn i dair cynulleidfa wahanol. Yn y lle cyntaf, mae'n datgan yn glir a diamwys wrth gefnogwyr llawr gwlad Plaid Cymru bod yr arweinyddiaeth nid yn unig yn rhannu eu dyheadau hwy ynghylch annibyniaeth ond eu bod hefyd yn fodlon ei arddel fel polisi. Yn yr ail le, wrth osod annibyniaeth fel nod bendant, mae PC yn meddiannu'r drafodaeth am ddyfodol Cymru; mae'n her uniongyrchol i'r holl bleidiau eraill yng Nghymru i ddatgan yn glir beth yw eu gweledigaeth hwy(ac mae hyn wrth gwrs yn her benodol i Lafur gan mae'n ymddangos i bawb mai cael llywodraeth lafur barhaol yng Nghaerdydd yw hyd a lled eu gweledigaeth hwy). Yn drydydd, mae'n bolisi sydd o'r diwedd yn bod yn onest efo'r cyhoedd yng Nghymru; a dweud yn glir, dyma lle ydan ni'n sefyll fel plaid a dyma ydi'n nod ni. Mae yna sawl rheswm am y dirmyg sydd gan bobl yn gyffredinol at wleidyddion heddiw; ond dwi'n meddwl mai un ohonyn nhw ydi'r ffaith nad ydi pobl yn gallu coelio yn yr hyn y mae gwleidyddion cyfoes yn ei ddweud:gan fod pawb mor identikit o ran yr ieithwedd reolaethol, biwrocrataidd a di-fflach a ddefnyddir wrth siarad a'r cyhoedd. Dwi'n meddwl bod gan bwnc annibyniaeth y gallu i godi uwchben y malaise cyffredinol hwn gan ei fod yn ymwneud a'r elfen hwnnw sydd mor brin yn ein gwleidyddiaeth cyfoes sef gweledigaeth. Er mor anodd fydd hi ar y cychwyn, dwi'n meddwl mai un o'r canfyddiadau ddaw i'r amlwg ymhlith y cyhoedd yng Nghymru dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf ydi: "Hei mae PC wirioneddol yn CREDU yn hyn- duwcs, mae'n braf gweld Plaid wleidyddol sy'n credu yn rhywbeth y dyddiau hyn". Dyna'r math o agwedd fydd yn sicrhau gwrandawiad i'r neges am annibyniaeth yn fy meddwl i.

Mae yna ddywediad Saesneg "Fortune favours the brave" a gobeithio wir y bydd hynny'n wir yn yr achos hwn!
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Re: Gall Cymru fod yn Annibynnol

Postiogan miri » Mer 18 Maw 2009 4:01 pm

Y cwestiwn mawr ydy: ydy'r pobol sy'n byw yng Nghymru eisiau fod yn annibynnol?
Rhithffurf defnyddiwr
miri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Mer 11 Ion 2006 10:23 pm
Lleoliad: Y De

Re: Gall Cymru fod yn Annibynnol

Postiogan Rhods » Mer 18 Maw 2009 10:33 pm

miri a ddywedodd:Y cwestiwn mawr ydy: ydy'r pobol sy'n byw yng Nghymru eisiau fod yn annibynnol?


Wel, dim ar hyn o bryd...ma'r polau yn dangos 85/90% yn erbyn yn gyson...

Sgwn i beth bydd yw'r ods am Cymru Annibynol o fewn dwedwch 20/25 mlynedd tho....? Oes unrhyw un yn gwbod am unrhyw bwci sydd yn cynnig ods ar hyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Gall Cymru fod yn Annibynnol

Postiogan Duw » Iau 19 Maw 2009 12:17 am

Falle bydd modd sglefrio ar byllau brwmstan uffern cyn i ni gael annibyniaeth. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gall Cymru fod yn Annibynnol

Postiogan Diobaithyn † » Maw 12 Mai 2009 10:36 pm

Es i efo blant arall or ysgol (ac ysgolion eraill) i'r senedd heddiw, fel rhan o cais y senedd i gael pobl ifanc yn cymryd diddordeb yn wleidyddiaeth. Cawsom siawns i gofyn gwestiynnau i'r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas ynh un rhan o'r dydd. Gofynais, gan ddweud, fel all Plaid sydd am annibyniaeth fod yn gefnogol o hyn pan mae fwy o arian yn dod fewn o lywodraeth ganolig nac yr ydym yn talu allan. Dywedodd, nac ydi'n feddwl all unrhyw wlad fod yn hollol 'annibynol'. Dywedodd nac oedd ef yn eisiau, na rhan fwyaf o'i blaid, hollol annibyniaeth i Gymru, ond mwy o ddatganoli a pwerau i Gymru.
Yr Ymgom - Fforwm drafod er ieuenctid Cymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Diobaithyn †
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Maw 12 Mai 2009 9:44 pm

Re: Gall Cymru fod yn Annibynnol

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 13 Mai 2009 8:26 am

Diobaithyn † a ddywedodd:Es i efo blant arall or ysgol (ac ysgolion eraill) i'r senedd heddiw, fel rhan o cais y senedd i gael pobl ifanc yn cymryd diddordeb yn wleidyddiaeth. Cawsom siawns i gofyn gwestiynnau i'r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas ynh un rhan o'r dydd. Gofynais, gan ddweud, fel all Plaid sydd am annibyniaeth fod yn gefnogol o hyn pan mae fwy o arian yn dod fewn o lywodraeth ganolig nac yr ydym yn talu allan. Dywedodd, nac ydi'n feddwl all unrhyw wlad fod yn hollol 'annibynol'. Dywedodd nac oedd ef yn eisiau, na rhan fwyaf o'i blaid, hollol annibyniaeth i Gymru, ond mwy o ddatganoli a pwerau i Gymru.


Dwi'n meddwl beth mae Dafydd Êl yn ei feddwl drwy hynny ydi Cymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd, lle bo gan Frwsel rywfaint o bwerau dros Gymru ond bod y brif rymoedd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, ac nad oes gan Lundain unrhyw rym dros Gymru.

Wel, dwi'n cymryd 'na dyna mae o'n ei feddwl, dyn ag wyr efo Dafydd Êl.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Gall Cymru fod yn Annibynnol

Postiogan Nanog » Mer 13 Mai 2009 9:45 am

Diobaithyn † a ddywedodd: Cawsom siawns i gofyn gwestiynnau i'r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas ynh un rhan o'r dydd. Gofynais, gan ddweud, fel all Plaid sydd am annibyniaeth fod yn gefnogol o hyn pan mae fwy o arian yn dod fewn o lywodraeth ganolig nac yr ydym yn talu allan. Dywedodd, nac ydi'n feddwl all unrhyw wlad fod yn hollol 'annibynol'. Dywedodd nac oedd ef yn eisiau, na rhan fwyaf o'i blaid, hollol annibyniaeth i Gymru, ond mwy o ddatganoli a pwerau i Gymru.


Dwi erioed wedi clywed na gweld unrhyw ffigyrau am faint mae Cymru yn talu i'r trysorlys i'w gymharu gyda maint mae hi'n derbyn. Wyt ti? Dyw e ddim yn bodoli.

Un pwynt arall. Mi wnes di ddweud rhywbeth nad oedd yn ystyried y ffaith fod y llywodraeth ganolig yn talu allan fwy nag y mae yn derbyn i mewn. Os busnes y byddai....tebyg iawn byddai wedi mynd i'r clawdd. Ond fel llywodraeth, mae nid yn unig yn benthyg arian....ond yn gallu creu arian allan o ddim byd. Ond i ni'n byw mewn byd hyfryd? Cyfoeth allan o awyr iach. :lol:
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Gall Cymru fod yn Annibynnol

Postiogan Diobaithyn † » Mer 13 Mai 2009 5:29 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Diobaithyn † a ddywedodd:Es i efo blant arall or ysgol (ac ysgolion eraill) i'r senedd heddiw, fel rhan o cais y senedd i gael pobl ifanc yn cymryd diddordeb yn wleidyddiaeth. Cawsom siawns i gofyn gwestiynnau i'r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas ynh un rhan o'r dydd. Gofynais, gan ddweud, fel all Plaid sydd am annibyniaeth fod yn gefnogol o hyn pan mae fwy o arian yn dod fewn o lywodraeth ganolig nac yr ydym yn talu allan. Dywedodd, nac ydi'n feddwl all unrhyw wlad fod yn hollol 'annibynol'. Dywedodd nac oedd ef yn eisiau, na rhan fwyaf o'i blaid, hollol annibyniaeth i Gymru, ond mwy o ddatganoli a pwerau i Gymru.


Dwi'n meddwl beth mae Dafydd Êl yn ei feddwl drwy hynny ydi Cymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd, lle bo gan Frwsel rywfaint o bwerau dros Gymru ond bod y brif rymoedd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, ac nad oes gan Lundain unrhyw rym dros Gymru.

Wel, dwi'n cymryd 'na dyna mae o'n ei feddwl, dyn ag wyr efo Dafydd Êl.


Mae Dafydd yn sicr yn fwy dyn am gydweithrediad nag annibyniaeth, ond dal yn eisiau llywodraeth llai ganolig a fwy lleol (dechreuodd y sessiwn cwestiynnu (a oedd yn 'Siambr Hywel', yn hen adeilad y cynulliad) gan son am y cytundeb a oedd rhwng Hywel Dda ac Alfred Mawr (golwg eithaf romantig ar ddatganoli). Ges i'r argraff nad oedd ganddo ots os bydd Gymru'n aros yn rhan o Prydain a'r Cyfamwlad, dim ond fod gennym fwy o bwerau dros ein hunan. Felly, fath o Brydain ddatganolig, efo San Steffan fel y Brussels.

Yn fy mharn i, mae llywodraeth fwy datganolig yn llawer tegach ar y pobl, ac yn galluogi i wir barnau pobl ardal cael ei glywed yn well, ac i'r amriw o ddiwyllianau ardderchog wlad parhau. Yr anhegwch mawr dwi'n gweld yn y system presennol yw fod gan Lloegr ei hunan ddim senedd.

Nanog, byddai'n ceisio dod o hyd i ystadegau. Ar dy ail bwynt, wnes i ddweud fod Cymru'n yn talu allan llai i'r llywodraeth canolig nag y mae'n derbyn i mewn, nid Prydain yn gyfan gwbl. Yn dwieddar mae'r llywodraeth llafur wedi rhedyg i fynnu dyledion mawr, ond dydi llywodraethau ddim fel arfer yn ceisio creu 'cyfoeth allan o awyr iach', rhag ofn gorchwiddiant enfawr a chwymp yr economi. Benthyg yw'r opsiwn orau ar gael.
Yr Ymgom - Fforwm drafod er ieuenctid Cymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Diobaithyn †
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Maw 12 Mai 2009 9:44 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai

cron