Tudalen 1 o 1

Teiars a chondoms

PostioPostiwyd: Iau 09 Ebr 2009 2:23 am
gan Kez
Dyma fi'n syrfo'r we a dod dros hyn :rolio:
Own i'n shocked :o

175,000 o deiars: Carcharu dau

Delwedd

Mae cyn blismon Heddlu'r Gogledd a dau arall wedi cael eu dedfrydu am gasglu 175,000 o hen deiars er mwyn gwneud condoms allan ohonynt a hynny heb drwydded.

Rhyfedd o fyd! A oes rhywun arall wedi clywed am y drosedd hon?

Re: Teiars a chondoms

PostioPostiwyd: Iau 09 Ebr 2009 8:55 am
gan Hogyn o Rachub
Pa fath o drwydded ti'n gwneud cais amdani i droi teiars yn gondoms?

A sut wyt ti jyst yn pori'r we ac yn dod ar draws hynny ar hap wn i ddim Kez!!!


(mae'n rhaid bod 'na jôc dda i'w wneud am hyn, siwr?)

Re: Teiars a chondoms

PostioPostiwyd: Iau 09 Ebr 2009 9:08 am
gan Duw
Gobeithio bod y condoms yn wero'n well na teiars! Teiars 'wet weather' sy eisie? :crechwen:

Re: Teiars a chondoms

PostioPostiwyd: Iau 09 Ebr 2009 9:44 am
gan Josgin
Gochelwch rhag 're-treads ' !

Re: Teiars a chondoms

PostioPostiwyd: Iau 09 Ebr 2009 11:10 am
gan dawncyfarwydd
Ma hyn newydd yn atgoffa i o jôc wnaeth rhywun ddeud wrtha'i yn rysgol bach.

Be ti'n gal os ti'n cael rhyw bob dydd o'r flwyddyn ac yn cadw'r condoms i neud teiar? Goodyear.

Do'n i'm yn dallt honna pan o'n i'n ddeg oed.

Re: Teiars a chondoms

PostioPostiwyd: Iau 09 Ebr 2009 5:18 pm
gan Kez
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Pa fath o drwydded ti'n gwneud cais amdani i droi teiars yn gondoms?

A sut wyt ti jyst yn pori'r we ac yn dod ar draws hynny ar hap wn i ddim Kez!!!



Ma medddod yn 'magic carpet' Hogyn ac yn mynd a fi i bobman.

Noson mas a bach o barti odd hi ifi nithwr 'chan. Newid geiriad eitem off gwefan newyddion y BBC 'netho i - my Horne & Corden moment :wps: , felly paid a chredu popeth ti'n darllen ar y we.

Nol off i'r gwely odw i nawr - ma 'mhen i'n neud los!

Re: Teiars a chondoms

PostioPostiwyd: Gwe 10 Ebr 2009 12:05 pm
gan Ray Diota
ma ishe iddyn nhw gario mlan i gasglu os y'n nhw am neud condom i fi...


sori, wy'n bored...