Cymru - gwlad fach eiddil a gwan

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru - gwlad fach eiddil a gwan

Postiogan Cardi Bach » Gwe 24 Ebr 2009 5:17 pm

David Starkey a ddywedodd:Scotland and Wales..feeble little countries


Dyma oedd geiriau y rhech hwn ar Question Time neithiwr.

Diolch Mr Starkey. :rolio:
Twlsyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Cymru - gwlad fach eiddil a gwan

Postiogan bed123 » Gwe 24 Ebr 2009 9:00 pm

Mae'r dyn yn hiraethu am yr ymerodraeth Prydeinig a rheoli caethweision, twat gwirion
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Cymru - gwlad fach eiddil a gwan

Postiogan Chickenfoot » Gwe 24 Ebr 2009 9:06 pm

bed123 a ddywedodd:Mae'r dyn yn hiraethu am yr ymerodraeth Prydeinig a rheoli caethweision, twat gwirion


Go wir? Gordd-ddweud? :|

Mewn rhai ffyrdd, da ni yn wledydd bach wan - ond mae lot o'r bai am hyn ar Saeson fel Mr Starkey.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Cymru - gwlad fach eiddil a gwan

Postiogan Duw » Gwe 24 Ebr 2009 10:06 pm

Be chi'n recno? Ymgyrch yn ei erbyn fel A.A. Gill? Tynnu allan tanysgrifiad o Gay Sheep in Sussies yn ei enw. Ffatwah ar y ff*cyr.


//golygu

A oedd e'n cyfeirio at Cymru, Alban ac Iwerddon yn wan oherwydd rydym yn dathlu diwrnod nawddsant?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cymru - gwlad fach eiddil a gwan

Postiogan Josgin » Sad 25 Ebr 2009 11:32 am

Os mai Ieuan Wyn Jones yw arweinydd eich cenedlaetholwyr chi, pa ryfedd eich bod yn cael eich galw'n dila a gwan.
Mae tawelwch cachgwn y cynulliad yn fyddarol . Petai wedi enwau cas ar wledydd Africa neu Arabaidd byddai Plaid Cymru ar flaen y gad yn ymateb iddo. Diolch amdano cofiwch am roi cyfiawnhad i ni fod yn wrth-Brydeinig .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Cymru - gwlad fach eiddil a gwan

Postiogan Macsen » Sad 25 Ebr 2009 1:37 pm

Dwi i'n ei weld o'n beth eitha rhyfedd bod Lloegr yn gweld eu hunain fel 'y concwerwyr' tra mai Cymru/Alban ayyb yw'r 'rhai sydd wedi eu concro'. Mae Lloegr yn cael ei goncro yn amlach na neb, yr unig wahaniaeth ydi eu bod nhw'n tueddu i fod yn fwy parod i addasu i'w concwerwyr ac, o fewn ychydig flynyddoedd, smalio mai eu syniad nhw oedd o o'r cychwyn. Petai Prydain yn cael ei goncro gan, dweud, yr Almaen fory, o fewn can mlynedd byddai pawb yn Lloegr yn siarad Almaeneg ac yn ystyried eu hunain yn goncwerwyr mawr Tiwtonaidd tra bod y Cymru, am ein bod ni wedi cadw rywfaint o'n diwylliant a'n iaith ein hunain, 'wedi ei goncro'.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cymru - gwlad fach eiddil a gwan

Postiogan bed123 » Sad 25 Ebr 2009 7:42 pm

Dweud oedd o bod Cymru a'r Alban yn wledydd bach eiddil oherwydd rydyn ni yn caru ein gwlad yn fwy na mae'r Saeson yn caru Lloegr.

Dwi ddim yn dallt logic felly, sut mae hynny yn gwenud ni yn wan? Ond mewn ffordd mae Starkey yn llygaid ei le.

Rydyn ni yn wlad eiddil a gwan sy hefo Senedd heb pwerau deddfu a codi trethi. Felly yn yr ystyr yna, mae o'n hollol iawn.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Cymru - gwlad fach eiddil a gwan

Postiogan Duw » Sad 25 Ebr 2009 9:26 pm

Elen i'n bellach - nage'r Senedd yw'r broblem ond y diawled heb asgwrn cefen sy'n rhiteg pethe. Gwlad gwan oherwydd yr amateurs 'na.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cymru - gwlad fach eiddil a gwan

Postiogan Bwmbarech » Sad 25 Ebr 2009 10:11 pm

Ma david starkey yn hanesydd gwael iawn un pwnc yn obsesd efo harri'r 8fed ac yn dosar. end of.
Ond dyma josgin yn dosar arall - pam dwad a busnas lleiafrifoedd erill i mewn i'r peth? O ia sa david starkey yn bwrw sen ar boblogaeth guinea bissau mi fasa na ffwc o le gin plaid cymru. i dont think so. dos adra i ddarllan dy ddaily mail a tyfa fyny y blwmar.
Bwmbarech
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Gwe 22 Awst 2008 9:15 pm

Re: Cymru - gwlad fach eiddil a gwan

Postiogan Duw » Sul 26 Ebr 2009 8:36 am

Pwy sy wedi shiglo dy gaj ti te bwm? Ieuan Wyn yw dy fam ti? Bydden i'n tueddu cytuno 'da Josgin - arweinwyr Cymru - blydi joc - Rhodri a Ieuan - Morcambe and Wise. Am alw hen git yn blwmar, wel mae hwnna'n jest rwd. :winc:

Ger llaw oedd 'dosar' yn cyfeirio at 'dosser' neu 'tosser'? :ffeit: Mae cyd-destun yn hollbwysig.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai

cron