Tudalen 1 o 1

Alun Davies AC a Blaenau Gwent

PostioPostiwyd: Mer 29 Ebr 2009 8:23 pm
gan Kez
Delwedd


Mae Alun Davies wedi penderfynu ceisio am yr ymgeisyddiaeth Lafur ym Mlaenau Gwent yn hytrach nac amddiffyn ei sedd bresennol fel aelod rhestr yn y Gorllewin a'r Canolbarth. I ddechrau ei ymgais, dyma fe’n gweud hyn am yr aelod presennol:

"The current incumbent does little or nothing to fight for Blaenau Gwent. Her contributions to the Assembly are woeful. She has let down the people of Blaenau Gwent and broken the promises she made. Enough is enough."

Dyma ragor o'i eiriau doeth ar y rhaglen CF99 ne rywpath tebyg welas i - fi'n siwr:

‘I’m sick to death of representing the swamps, so I’m going back to pastures greener’

Am goc broga o foi!

Re: Alun Davies AC a Blaenau Gwent

PostioPostiwyd: Mer 29 Ebr 2009 10:10 pm
gan Duw
Delwedd Cytuno - twlsyn. Dwi wedi cael y pleser amheus o'i gwrdd ar sawl achlysur - gwraig yn ei 'nabod yn dda o'i dyddie Aber. Mor hunanbwysig - hyd yn oed cyn iddo fod yn wleidydd 3ydd gradd (1: AS, 2: AC, 3: AC rhanbarthol - cytuno??). Mae e wedi magu'r gwddwg pudgy afiach na hefyd - profi ei fod yn rhy gyfforddus â bywyd. Ishe tynnu'r pric lawr. Gad e gadeirio cyfarfodydd W.I. - gewn weld ei seis e wedyn.

Re: Alun Davies AC a Blaenau Gwent

PostioPostiwyd: Iau 30 Ebr 2009 7:42 am
gan Hogyn o Rachub
Oes 'na rhywun am fentro dyfalu beth ydi ei gymhelliant dros wneud hyn? As in, ei gymhelliant go iawn? Mynd diân mae'n gwybod yn iawn os bydd o'n ymladd Blaenau Gwent fydd o'n cael cweir.

Fydda i'n hapus iawn gweld cefn arno - gwleidydd gyrfa ydi o, dim mwy na llai.

Re: Alun Davies AC a Blaenau Gwent

PostioPostiwyd: Iau 30 Ebr 2009 8:13 am
gan Seonaidh/Sioni
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Fydda i'n hapus iawn gweld cefn arno - gwleidydd gyrfa ydi o, dim mwy na llai.

Rhaid cyfaddef dwi ddim yn nabod y boi. Efallai gallet ti ateb rhywbeth i mi: ai gwell am wleidydd gyrfa newid o Blaid Cymru i'r Blaid Lafur ai peidio?

Re: Alun Davies AC a Blaenau Gwent

PostioPostiwyd: Iau 30 Ebr 2009 10:29 am
gan Doctor Sanchez
Ydio'n fets efo Seimon Brooks?

Os dio'r un boi a dwi'n feddwl/cofio, odd o'n y Marine yn Aberystwyth ryw nos Sadwrn flynyddoedd yn ol efo Brooks. Gesh i ffrae efo fo dros y Gymraeg a annibyniaeth Cymreig etc

Os ma fo ydi o fedrai gadarnhau ma'r boi yn goc oen o'r radd flaenaf

Re: Alun Davies AC a Blaenau Gwent

PostioPostiwyd: Iau 30 Ebr 2009 10:48 am
gan Doctor Sanchez
Mae o'n dwad o dredegar hefyd?

Re: Alun Davies AC a Blaenau Gwent

PostioPostiwyd: Iau 30 Ebr 2009 12:05 pm
gan Hedd Gwynfor
Gwych, gwych, gwych!!!


Re: Alun Davies AC a Blaenau Gwent

PostioPostiwyd: Iau 30 Ebr 2009 1:38 pm
gan Hogyn o Rachub
Dwi'n meddwl ei fod o'n trio am Flaenau Gwent achos bod o isio get-out clause hawdd o fod yn AC neu yn y blaid Lafur. Geith o ryw gyflog mwy yn gwneud rhywbeth arall wedyn am wn i. Ond os na fydd aelodau Llafur Blaenau Gwent (sy'n bur rhyfedd yn sôn am mynd â'r frwydr i Blaid Cymru (yn ogystal â Llais y Bobl) ym Mlaenau Gwent - sy'n ddibwynt braidd yn y fan honno) yn ei dderbyn fel ymgeisydd, be fydd ei hanes o wedyn tybed?


Kez a ddywedodd:Am goc broga o foi!


Am ryfedd o beth i ddweud, nes i ddweud wrth un o'm ffrindia i ddoe bod ganddi dafod fel coc broga!