Hoffech chi gael £15 am helpu i ddatblygu’r Cyfrifiad?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hoffech chi gael £15 am helpu i ddatblygu’r Cyfrifiad?

Postiogan CyfrifiadCymraeg » Mer 13 Mai 2009 3:02 pm


Hoffech chi gael £15 am helpu i ddatblygu Holiadur Cymraeg Cyfrifiad 2011?


Rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu holiadur Cymraeg Cyfrifiad 2011. Mae’n bwysig ein bod yn profi’r cwestiynau ar amrywiaeth eang o bobl i sicrhau eu bod yn glir ac yn hawdd eu hateb.

Hoffem gwrdd â chroestoriad o siaradwyr Cymraeg o bob cwr o Gymru, sydd heb helpu gyda’r gwaith hwn o’r blaen. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cwrdd â phobl o’r categorïau hyn:

• Pobl â thenantiaid neu lojers
• Lojers neu denantiaid
• Pobl sy’n rhannu eu cartref
• Rhieni â phlant neu fabanod
• Rhieni â phlentyn sy’n fyfyriwr (sy’n byw oddi cartref)
• Pobl ag ymwelydd/ymwelwyr yn aros gyda nhw
• Pobl o’r tu allan i’r DU sy’n aros yma am gyfnod dros dro
• Pobl na chafodd eu geni yng Nghymru
• Myfyrwyr (naill ai’n byw gartref neu oddi cartref)
• Pobl ddi-waith (am gyfnod hir neu dros dro)
• Pobl sydd wedi’u hatal dros dro rhag gweithio, e.e. oherwydd prinder gwaith
• Pobl sy’n gweithio am dâl
• Lleiafrifoedd ethnig
• Pobl heb gymwysterau
• Pobl â chymwysterau tramor

Os yw un neu fwy o’r meini prawf uchod yn berthnasol ichi, neu i unrhyw rai o’ch ffrindiau, o’ch teulu, o’ch cymdogion neu o’ch cydweithwyr, hoffem gwrdd â chi neu â’r bobl hynny, rhwng 8 Mehefin a 30 Mehefin 2009.

Byddwn yn dod i’ch cartref i ofyn ichi lenwi’r holiadur Cymraeg, ac wedyn trafod rhai o’r cwestiynau. Dylai hyn gymryd tua awr. Ni chaiff unrhyw fanylion personol eu defnyddio am unrhyw reswm, na’u datgelu i unrhyw un arall.

Bydd y bobl sy’n cymryd rhan yn cael £15 i ddiolch iddynt am ein helpu. Nodwch nad oes hawl gan staff y Swyddfa Ystadegau Gwladol na Llywodraeth Cynulliad Cymru gymryd rhan yn y gwaith datblygu hwn.

Os byddwch yn gwybod am rywun sydd â diddordeb, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jayne Mathias, drwy anfon e-bost at jayne.mathias@ons.gsi.gov.uk, neu drwy ffonio 01348 811547.
CyfrifiadCymraeg
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Iau 27 Maw 2008 3:54 pm

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron