Tudalen 1 o 1

Colli tir

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 6:50 pm
gan mabon-gwent
Daeth fel syndod imi weld bod llawer o'r trefi cymreig * yn awr yn gweud "Aberystwyth, England" ayyb. Oes rhywun sy'n deall y pethau hwn yn well na fi sy'n gallu tro e'n ôl i naill ai United Kingdom fel yr oedd, neu rownd i Gymru. Mater o amddiffyn beth sy dal da ni..



* ar Facebook, sori :wps:

Re: Colli tir

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 7:09 pm
gan Cardi Bach
Bydd raid i ti esbonio yn well.
Sdim cliw da fi be ti'n siarad am, sori.

Re: Colli tir

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 7:18 pm
gan mabon-gwent
Wel, os dych chi'n edrych unrhywle ar Facebook lle mae'n gweud leoliad o ddigwyddiad neu bencadlys neu le yr ydych yn byw, mae'n gweud enw'r dre, wedyn y wlad, mae wedi newid ac nawr felly dros llawer o drefi fi di gweld:

Cardiff, England
Aberystwyth, England
Aberdare, England
Tudweiliog, England

Ro'n i'n gofyn os oedd unrhywun yn gwybod y ffordd i gysylltu â'r rheolwyr Facebook er mwyn newid y peth.