30 eiliad o'ch amser‏

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

30 eiliad o'ch amser‏

Postiogan Cymro13 » Llun 01 Meh 2009 2:34 pm

Ceidwadwyr Cymreig?

Mae'r Ceidwadwyr 'Cymreig' wedi dosbarthu ei anerchiad etholiadol ledled Cymru heb air o Gymraeg arno heblaw am y frawddeg ganlynol:

"Os ydych chi am dderbyn yr anerchiad etholiadol hwn yn gymraeg, ffoniwch ni ar 029 20 616 031 neu ebostiwch ccowales@tory.org"

Ymunwch a fi wrth yrru ebost i ccowales@tory.org gan ofyn iddyn nhw ddanfon copi Cymraeg i chi drwy'r post.
Os nad oes ganddynt digon o barch i roi gair o Gymraeg ar y brif daflen etholiadol, falle dyle nhw cael wythnos etholiad brysur yn postio copiau Cymraeg i ni...

ebostiwch ccowales@tory.org
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: 30 eiliad o'ch amser‏

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 01 Meh 2009 5:02 pm

Nei jyst anharddwch y daflen pan ddaw e drwy'r drws a'i anfon nôl (heb stamp wrthgwrs) at eu prif swyddfa.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: 30 eiliad o'ch amser‏

Postiogan cfr » Llun 01 Meh 2009 11:47 pm

Oes gwybodaeth dwyieithog o bob plaid arall gyda chi?

Dw i ddim wedi gweld llawer o Gymraeg yma. Plaid Cymru, wrth gwrs, a'r Blaid Lafur, dw i'n meddwl. Ond y lleill? Efallai un gair neu ddau ond dim llawer.
cfr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Sad 02 Mai 2009 11:37 pm

Re: 30 eiliad o'ch amser‏

Postiogan Duw » Maw 02 Meh 2009 12:07 am

Dwi'n cofio rhyw amser yn ol (dros 10 blynedd), pan yn byw yn Vic Park, Caerdydd, cefais pethe o bob plaid. Yr un ceidwadol oedd yr unig un heb unrhyw Gymraeg arno. Ffonies i'r swyddfa i mofyn un Cymraeg. I'm syndod, cefais menyw ifanc a oedd yn gallu siarad Cymraeg(!) yn dweud nid oeddent am ddosbarthu rhai dwyieithog i bawb oherwydd byddai'n 'ypsetio' pobl. Roedd yn rhaid i mi felly basio ymlaen fy manylion er mwyn derbyn copi yn y Gymraeg. Stim ishe dweud nes i ddim boddran.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron