Mae Plaid Cymru a'r SNP wedi gwneud coblyn o stroc wleidyddol heddiw drwy gyhoeddi y byddant yn cyflwyno cynnig i ddiddymu'r senedd ddydd Mercher nesaf, Mehefin 10.
Mae'r amseriad yn berffaith. Bydd Llafur yn mynd i mewn i'r ddadl yn dilyn crasfa hanesyddol yn yr etholiadau lleol ac Ewropeaidd ddydd Iau, a dyddiau wedyn o ddyfalu di-baid am ddyfodol Gordon Brown a'r llywodraeth fethedig hon. Bydd Plaid Cymru a'r SNP yn gallu dadlau eu bod nhw'n cynrychioli awydd y cyhoedd am weld diwedd ar y senedd bresennol, ac ennyn llawer o gydymdeimlad a chefnogaeth cyhoeddus yn sgil hynny. Yn barod, mae'r Lib Dems wedi dweud y byddan nhw'n cefnogi'r cynnig, ac mae'n anodd gweld sut all y Toriaid wrthod cefnogi'r cynnig wedi'r holl alwadau diweddar gan David Cameron am etholiad buan.
Er mwyn i'r cynnig lwyddo, bydd angen i 35 o aelodau seneddol Llafur i beidio a chefnogi'r llywodraeth. Ar un ystyr, mae'n anodd iawn gweld sut y gallai hynny ddigwydd. Ond, fel ag y mae pethau, a sut y bydd pethau ar ol ddydd iau, pwy a wyr? Mae'n bosib y bydd pwysau mawr ar yr aelodau seneddol Llafurol o du'r cyhoedd am etholiad buan; efallai'n wir y bydd rhai ohonynt yn gweld mai'r gobaith gorau mewn gwirionedd i Lafur ydi cael etholiad yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ac y byddai hefyd yn ffordd o ad-ennill rhywfaint o'u henw da yng ngolwg y cyhoedd. O gofio bod ymatal eu pleidlais, neu methu a bod yn bresennol, yn gyfystyr a phleidlais yn erbyn y llywodraeth, tybed faint o'r 35 fydd yn gallu gweld eu ffordd yn glir i wneud hynny? Dyddiau difyr iawn o'n blaenau.