Cymedrolwr: Mr Gasyth
fod Plaid heb roi llawer o adnoddau i mewn i'r etholiad yma - cadw nol at etholiad cyffredinol buan o bosib
Mae ambell i awgrym yn dechrau ein cyrraedd ynghylch etholiadau Ewrop. Mae'r nifer wnaeth droi allan yn llai na deg ar hugain y cant yn y rhan fwyaf o etholaethau seneddol Cymr. Mae 'na sôn hefyd bod Llafur wedi disgyn i'r drydydd safle yn Llanelli a Dwyrain Caerfyrddin gan golli i Blaid Cymru ac UKIP yn y ddwy etholaeth. Fe gawn weld!
Mae'n ddiddorol bod y Ceidwadwr Guto Bebb wedi darogan y bydd UKIP yn cipio sedd yng Nghrymu. I wneud hynny fe fyddai'n rhaid i'r Blaid ddod yn bedwerydd ac ennill 50% + 1 o bleidlais pa bynnag blaid sydd ar y brig. Byswn i'n tybio bod hynny'n golygu rhyw 15% o'r bleidlais. 10.5% cafodd y blaid tro diwethaf. Amser a ddengys.
Roedd Guto yn siarad ar Dau o'r Bae. Gallwch glywed y rhaglen trwy danysgrifio i'r podlediad ac ar iPlayer.
Colin Elsbury Plaid Cymru 723 (29%)
Eddie Talbot Independent 563 (23%)
David Paul Hagendyk Labour Party 367 (15%)
Robert Stanley Lea Independent 296 (12%)
Michael Meredith Welsh Conservative 274 (11%)
Huw Price Welsh Liberal Democrats 248 (10%)
Cardi Bach a ddywedodd:Ma dowt 'da fi am UKIP yn llwyddo yng Nghymru
Cardi Bach a ddywedodd:Mae Vaughan yn dweud yn ei flog fod rhai ymhlith y Blaid Lafur yn pryderi fod canlyniadau Llafur yng Nghymru am fod yn waeth na Llafur yn Lloegr ac eu bod am ddod yn drydydd gwael yma. Os ydyw hynny'n wir, yna i ble mae'r bleidlais wedi mynd?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 40 gwestai