Hedd Gwynfor a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:Mae Vaughan yn dweud yn ei flog fod rhai ymhlith y Blaid Lafur yn pryderi fod canlyniadau Llafur yng Nghymru am fod yn waeth na Llafur yn Lloegr ac eu bod am ddod yn drydydd gwael yma. Os ydyw hynny'n wir, yna i ble mae'r bleidlais wedi mynd?
Yr ateb mwyaf tebygol yw bod y bleidlais heb fynd i unrhyw le. H.y. ma cefnogwyr Llafur jest wedi cael llond bola a aros gytre.Os felly, a bod y tyrn-owt yn isel iawn (llai n 25% o bosib?) mae dal yn golygu fod mwy o siawns gan UKIP (neu hyd yn oed BNP!!) ennill sedd yng Nghymru achos gyda tyrn-owt isel bydd eu canran yn fwy (er falle nid eu pleidlais). Dim ond angen i un o'r ddau gael 14/15% o'r bleidlais i ennill sedd.
digon gwir. ond cofia fod y turn out yn uwch yng Nghymru na Lloegr - tua 30%.