Sïon etholiad Ewrop

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Sul 07 Meh 2009 2:05 pm

osian a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Na fyddai'n wych i weld aelod o'r BNP/UKIP mas yn Ewrop? Bydde'r ffaith ei fod yn gorfod hala llawer o amser mysg Johnny Foreigner yn uffern ar ddaear iddynt! :lol:

Oni'n meddwl am hynny. Sut ddiawl ma grwp adain dde eithafol yn yr UE yn mynd i weithio? BNP yn gorfod cymysgu efo pobol polish a jyrman etc...

ma'r BNP yn gwrthod mynd, ydyn nhw ddim? y gwastraff eitha' os gawn nhw sedd. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Iwan Rhys » Sul 07 Meh 2009 2:14 pm

A fydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi fesul etholaeth, neu dim ond fel canlyniad Cymru gyfan?

A pha amser/amserau y gallwn ni ddisgwyl clywed y canlyniadau?
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.
Iwan Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 219
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 11:28 pm
Lleoliad: Wellington, Seland Newydd

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan osian » Sul 07 Meh 2009 2:40 pm

Ma'r rhaglen ar BBC2 rhwng 10 ac 1 heno, a rhaglen newyddion felly drwy'r nos. Sgin i'm clem pryd ma canlyniad Cymru am ddod, ond swn i'n tybio y bydd hi'n reit fuan o sdyriad maint y wlad...
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 07 Meh 2009 7:27 pm

Newydd weld Adam Price a Nick Bourne yn siarad yn fyw o'r cownt ar BBC News 24, a roedd y ddau yn ffyddiog iawn, o weld beth oedd eisoes wedi cyfrif, y bydd Llafur yn 3ydd safle yng Nghymru. Rhwng Ceidwadwyr a Plaid Cymru am y safle 1af. Dyma ddywedodd Adam Price:

Adam Price a ddywedodd:We had an earthquake in Wales on Friday night and I think we're going to have a political earthquake tonight. It's between us and the Conservatives for pole position.


Mae hyn yn awgrymu yn gryf i mi y bydd UKIP felly yn cael y 4ydd sedd yng Nghymru, gan ei fod yn debygol iawn o gael o leiaf 15%, a dwi ddim yn gweld y Ceidwadwyr na Phlaid Cymru yn cael mwy na 30% o'r bleidlais i sicrhau 2il sedd. :?

Disgwyl canlyniad yng Nghymru erbyn 10pm heno!

Gol. Wedi dileu ffigyrau nad oedd yn cynnwys Lib Dems
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Mwlsyn » Sul 07 Meh 2009 7:40 pm

Lib Dems 2% ?!!
Mwlsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 148
Ymunwyd: Llun 23 Awst 2004 10:01 pm

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 07 Meh 2009 8:05 pm

Mwlsyn a ddywedodd:Lib Dems 2% ?!!


doh! Dyna pa mor amherthnasol ydyn nhw yn fy meddwl i. :winc: Lib Dems ar ol UKIP beth bynnag. Dyma ddarogan yn cynnwys y Lib Dems!!

Ceidwadwyr 22% - 1 sedd
Plaid Cymru 22% - 1 sedd
Llafur 19% - 1 sedd
UKIP 13% - 1 sedd
Lib Dems 8%
BNP 5%
Gwyrdd 5%

Ffigyrau 2004 oedd:

Llafur 32.5%
Ceidwadwyr 19.4%
Plaid Cymru 17.4%
UKIP 10.5%
Lib Dems 10.5%
Gwyrdd 3.6%
BNP 3%
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 07 Meh 2009 8:18 pm

Oddi ar Blog Menai. Ymddangos fod Adam Price bach yn rhy hyderus yn rhy gynnar. Son fod Plaid Cymru yn 3ydd trwy Gymru gyda'r Ceidwadwyr yn 1af, a Llafur yn 2il. :crio:

Etholiad Ewrop Rhan 10
Hen etholaeth Conwy, Toriaid yn gyntaf, Blaid yn ail, UKIP yn drydydd, Llafur yn bedwerydd.
Posted by menaiblog at 20:50
Etholiad Ewrop Rhan 9
Plaid Cymru yn gyntaf yn Meirion, Ceidwadwyr yn ail, UKIP yn drydydd, Llafur yn bedwerydd efo'r Lib Dems a'r Blaid Werdd yn agos tu ol. Sibrydion bod y Ceidwadwyr yn gyntaf dros Gymru, Llafur yn ail, a PC yn drydydd drost Gymru.
Posted by menaiblog at 20:45
Etholiad Ewrop Rhan 8
Sibrydion bod y toriaid ar y blaen dros Gymru, efallai y blaid yn ail. Y bedwaredd sedd rhwng UKIP a Lib Dems. Plaid Cymru tua 40% yn Ceredigion.
Posted by menaiblog at 19:35
Etholiad Ewrop Rhan 7
Llafur yn ennill yn y Rhondda, Plaid Cymru ar y blaen yn Llanelli gyda Llafur yn ail. Plaid Cymru wedi ennill Caernarfon efo hanner y bleidlais, toriaid yn ail, Llafur yn drydydd, UKIP yn bedwerydd. Plaid Cymru ar y blaen yn Nwyrain Caerfyrddin. UKIP ddim i weld yn gryf yng Nghymru.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 07 Meh 2009 8:38 pm

Blog Vaughan Roderick:

Vaughan Roderick a ddywedodd:Sibrydion (2) - 7/06/2009, 21:16

Rwyf am newid y broffwydoliaeth ynghylch y bedwaredd sedd gan roi UKIP yn ol yn y ffram. Mae'r blaid honno wedi gwneud yn well na'r disgwyl mewn etholaethau Llafur.

Mae Llafur yn colli pob sedd yng Nghaerdydd ac yn gwneud yn ofnadwy yn y Gogledd Ddwyrain. Ar y llaw arall mae Llafur ar y blaen i Blaid Cymru mewn llefydd fel Castell Nedd Port Talbot a Chaerffili. Y Ceidwadwyr ar y brig, Llafur yn ail, PC yn drydydd a'r bedwaredd sedd i UKIP? Mae'n gynnar ond mae hynny'n bosib. Gyda llaw mae'r Ceidwadwyr ac UKIP ar y blaen i'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Maldwyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 07 Meh 2009 9:01 pm

Betsan Powys yn cadarnhau mai'r Toriaid sydd wedi ennill y bleidlais boblogaidd yng Nghymru! :(
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Sïon etholiad Ewrop

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 07 Meh 2009 9:50 pm

Mae'n debygol iawn, iawn erbyn hyn mai'r drefn fydd Ceidwadwyr, llafur, Plaid Cymru, UKIP, Rhyddfrydwyr. Dal ansicrwydd ynglŷn a'r 4ydd sedd. UKIP a Ceidwadwyr yn dweud eu bod wedi ennill y sedd. Noson wael iawn i Blaid Cymru, noson gwael i Llafur, noson wych i'r Ceidwadwyr a UKIP.

SNP yn gwneud yn dda iawn yn yr Alban, Ceidwadwyr hefyd yn gwneud yn weddol, Llafur a'r Rhyddfrydwyr yn gwneud yn wael. Pam fod yr SNP wedi llwyddo a'r Blaid wedi methu?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 37 gwestai